Gradd Sylfaen mewn Dylunydd Artist Cyfoes
Ynglŷn â'r cwrs
Fel rhaglen Gradd Sylfaen mewn pwyslais ar gyflogadwyedd a dealltwriaeth o sgiliau entrepreneuraidd. Mae ‘Artist / Dylunydd’ yn derm cyffredinol a ddefnyddir fel arfer i gynnwys gwneud neu ddylunio gwrthrychau neu arteffactau. Mae gwneud wrth wraidd y cwrs, ac rydych chi’n datblygu sgiliau newydd drwy brofiad ymarferol gyda deunyddiau o fetelau, gwydr a cerameg i goed a thecstilau. Rydych chi’n dysgu pontio’r bwlch rhwng sgiliau oesol a’r dechnoleg ddiweddaraf gan greu ffyrdd newydd o wneud ar gyfer ein byd sy’n newid drwy’r amser. Byddwch hefyd yn datblygu arddull unigryw ac yn ystyried lle mae eich gwaith yn eistedd o fewn arfer creadigol. Rydych yn dysgu o brofiad diwydiant - ac yn cael eich ysbrydoli gan wneuthurwyr sy’n ymarfer.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Byddwch yn astudio’r modiwlau craidd canlynol ar lefel 4 a 5;
Blwyddyn 1 (lefel 4):
- Modiwl Pwnc: Cyflwyniad i'r deunyddiau, prosesau ac offer y byddwch chi eu hangen ar gyfer ymarfer creadigol
- Modiwl Maes: Hwyluso cydweithio i gasglu profiad busnes, leoliad gwaith ac ymchwil i entrepreneuriaeth.
- Modiwl Clwstwr: Cyfres o ddarlithoedd a seminarau am sut mae celf a dylunio yn cyfrannu at rwydwaith o leoliadau cyfoes cymdeithasol, diwylliannol, hanesyddol ac athronyddol.
Blwyddyn 2 (lefel 5):
- Modiwl Pwnc: Symud y tu allan i'ch parth cyfforddus ac arbrofi gyda phroses faterol a thechnolegau newydd.
- Modiwl Maes: Ymgymryd â lleoliad gwaith, cynnal ymchwil i entrepreneuriaeth mewn perthynas â Chelf a Dylunio.
- Modiwl Clwstwr: Arddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi sgiliau yn eich cyflwyniad clwstwr terfynol. Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â chymysgedd cytbwys o theori ac ymarfer sy’n cael eu cyflwyno drwy amrywiaeth o ddulliau addysgu ar draws y rhaglen.
Defnyddir arddangosfeydd a darlithoedd i ddisgrifio prosesau a thechnegau, sy’n cael eu hategu gan seminarau, hyfforddiant unigol, trafodaeth grŵp a sesiynau tiwtorial. Nodwch: Gallwch wneud cais am y cwrs hwn naill ai drwy UCAS neu’n uniongyrchol gyda'r Coleg. Os ydych yn gwneud cais trwy UCAS, defnyddiwch y manylion canlynol: Cod y Cwrs W250, Cod y Brifysgol C20, Cod y Campws = 8, CAVC - Campws y Barri
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Dysgu: £2,640.00
Gofynion mynediad
Bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn unigol. Nodir isod y gofynion mynediad nodweddiadol, ond os nad ydych yn bodloni’r meini prawf hyn, yna bydd eich portffolio o waith priodol a’ch profiad yn cael eu hystyried mewn cyfweliad. Mae cyfuniad o’r cymwysterau isod yn dderbyniol, ac efallai y bydd cymwysterau eraill na chânt eu rhestru hefyd yn dderbyniol. Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn ac ar gyfer mynediad safonol mae’n ofynnol cael isafswm o 48 o bwyntiau tariff UCAS, a adlewyrchir yn y cynigion isod: Cynnig Safon Uwch nodweddiadol - DD Cynnig BTEC nodweddiadol – proffil lefel 3 BTEC perthnasol o Basio/Pasio/Pasio Cynnig Bagloriaeth Cymru nodweddiadol – Gradd C, a DE Safon Uwch Cynnig Mynediad at Addysg Uwch nodweddiadol – Pasio Diploma gyda 60 credyd i gyd yn cynnwys 45 credyd lefel 3 (pasio pob un).
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Uchafbwynt y cwrs i mi oedd dysgu sut i wnïo a gallu archwilio’r holl themâu roeddwn yn dymuno eu defnyddio a chynhyrchu prosiect cowboi cwˆl. Ar ôl gadael y coleg, fy mwriad yw mynd i Brifysgol Brighton i astudio dylunio ffasiwn ac astudiaethau busnes, gyda’r gobaith o fynd ymlaen i fod yn berchennog siop. Rhoddodd y cwrs gyfle i mi ddod o hyd i fy arbenigedd, a gyda chefnogaeth y tiwtoriaid, roeddwn yn gallu dysgu a mireinio fy sgiliau.
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
16.0%
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cyfle i symud ymlaen i drydedd flwyddyn y cwrs BA (Anrh) Dylunydd Artist: Gwneuthurwr yn yr Ysgol Gelf a Dylunio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu