Gradd Sylfaen mewn Dylunydd Artist Cyfoes
Ynglŷn â'r cwrs
Fel rhaglen Gradd Sylfaen mewn pwyslais ar gyflogadwyedd a dealltwriaeth o sgiliau entrepreneuraidd. Mae ‘Artist / Dylunydd’ yn derm cyffredinol a ddefnyddir fel arfer i gynnwys gwneud neu ddylunio gwrthrychau neu arteffactau. Mae gwneud wrth wraidd y cwrs, ac rydych chi’n datblygu sgiliau newydd drwy brofiad ymarferol gyda deunyddiau o fetelau, gwydr a cerameg i goed a thecstilau. Rydych chi’n dysgu pontio’r bwlch rhwng sgiliau oesol a’r dechnoleg ddiweddaraf gan greu ffyrdd newydd o wneud ar gyfer ein byd sy’n newid drwy’r amser. Byddwch hefyd yn datblygu arddull unigryw ac yn ystyried lle mae eich gwaith yn eistedd o fewn arfer creadigol. Rydych yn dysgu o brofiad diwydiant - ac yn cael eich ysbrydoli gan wneuthurwyr sy’n ymarfer.
Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs – CR07 Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - B, Enw Campws – Campws y Barri
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Byddwch yn astudio’r modiwlau craidd canlynol ar lefel 4 a 5; Blwyddyn 1 (lefel 4):
- Modiwl Pwnc: Cyflwyniad i'r deunyddiau, prosesau ac offer y byddwch chi eu hangen ar gyfer ymarfer creadigol
- Modiwl Maes: Hwyluso cydweithio i gasglu profiad busnes, leoliad gwaith ac ymchwil i entrepreneuriaeth.
- Modiwl Clwstwr: Cyfres o ddarlithoedd a seminarau am sut mae celf a dylunio yn cyfrannu at rwydwaith o leoliadau cyfoes cymdeithasol, diwylliannol, hanesyddol ac athronyddol.
Blwyddyn 2 (lefel 5):
- Modiwl Pwnc: Symud y tu allan i'ch parth cyfforddus ac arbrofi gyda phroses faterol a thechnolegau newydd.
- Modiwl Maes: Ymgymryd â lleoliad gwaith, cynnal ymchwil i entrepreneuriaeth mewn perthynas â Chelf a Dylunio.
- Modiwl Clwstwr: Arddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi sgiliau yn eich cyflwyniad clwstwr terfynol. Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â chymysgedd cytbwys o theori ac ymarfer sy’n cael eu cyflwyno drwy amrywiaeth o ddulliau addysgu ar draws y rhaglen.
Defnyddir arddangosfeydd a darlithoedd i ddisgrifio prosesau a thechnegau, sy’n cael eu hategu gan seminarau, hyfforddiant unigol, trafodaeth grŵp a sesiynau tiwtorial.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Dysgu: £7,500.00
Gofynion mynediad
Ystyrir ceisiadau i'r cwrs ar sail unigol. Mae manylion y gofynion mynediad nodweddiadol isod ond os nad ydych yn bodloni'r meini prawf hyn, yna bydd eich portffolio o brofiad gwaith a bywyd yn cael ei ystyried mewn cyfweliad. Rydym yn derbyn cyfuniadau o'r cymwysterau isod ac mae'n bosib y derbynnir cymwysterau eraill nad ydynt wedi eu nodi. Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu hŷn, ac o ran mynediad sylfaenol mae angen lleiafswm o 48 pwynt tariff UCAS, sy'n cael eu hadlewyrchu yn y cynigion isod: Cynnig Safon Uwch Nodweddiadol - DD Cynnig BTEC Nodweddiadol - proffil Llwyddo/Llwyddo/Llwyddo mewn BTEC lefel 3 perthnasol Caiff Tystysgrif Her Sgiliau Uwch ei derbyn yn lle un cymhwyster Safon Uwch ar y graddau a nodwyd, ac eithrio unrhyw ofynion sy'n benodol i bwnc Cynnig Mynediad i AU Nodweddiadol - Llwyddo mewn Diploma gyda 45 credyd ar lefel 3 mewn pwnc perthnasol
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Mae pawb yn gyfeillgar iawn ac mae’r profiad dysgu wedi bod yn arbennig - mae’r tiwtoriaid yn gefnogol ar bob adeg. Mi fyddwn i'n argymell mynd i’r Coleg gan ei fod yn lwybr gwych i brifysgol neu waith. Dwi'n ddigon ffodus i fod yn astudio cwrs dwi wir yn ei fwynhau a dyna’r peth pwysicaf.
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
16.0%
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cyfle i symud ymlaen i drydedd flwyddyn y cwrs BA (Anrh) Dylunydd Artist: Gwneuthurwr yn yr Ysgol Gelf a Dylunio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu