Tystysgrif Addysg Uwch mewn Camddefnyddio Sylweddau
Ynghylch y cwrs hwn
Mae'r cwrs yn anelu at ddatblygu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol i weithio o fewn parthau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac o'r cysylltiad rhwng Iechyd Meddwl a defnydd o Sylwedd. Bydd myfyrwyr hefyd yn:
- Datblygu dealltwriaeth a gwybodaeth addas i'r gofynion newidiol a chyd-destun gweithgaredd iechyd a gofal cymdeithasol.
- Datblygu dealltwriaeth o sut mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cysylltu o fewn maes Camddefnyddio Sylweddau.
- Gallu gwneud cyfraniad mwy gwybodus ac effeithiol i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol drwy'r datblygiad a'r ddealltwriaeth o sgiliau addas a gwybodaeth. Datblygu dealltwriaeth o effaith polisi iechyd a chymdeithaseg ar ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gallu gwneud cyfraniad effeithiol i ddatblygiad a gwelliant i wasanaethau er lles y defnyddwyr.
- Datblygu gallu myfyrwyr i berthnasu gwybodaeth a sgiliau a enillwyd ar gyfer datrys problemau a gwneud penderfyniadau addas.
- Ennill llwyfan i barhau datblygiad proffesiynol a dysgu gydol oes.
Mae'r cwrs yn cefnogi myfyrwyr mewn grymuso pobl i ymdrin â phroblemau a achoswyd gan gamddefnyddio sylweddau. Mae'r ffocws ar eich datblygiad academaidd mewn:
- Deall pam fod pobl yn cymryd cyffuriau, sut mae pobl yn cymryd cyffuriau, sut y cânt eu camddefnyddio ac effeithiau gwahanol gyffuriau.
- Ymwybyddiaeth gynyddol o'r problemau o gylch camddefnydd alcohol.
- Dealltwriaeth o oblygiadau defnyddio alcohol, dibyniaeth ar alcohol, ailwaelu a chilio yn ôl.
- Cynyddu hyder mewn delio â materion a digwyddiadau cysylltiedig ag alcohol.
Cynhelir y cwrs hwn mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru.
Sut i Ymgeisio: Rydych yn ymgeisio am y cwrs hwn drwy UCAS. Aiff y botwm 'Ymgeisio Nawr' â chi i'r dudalen cwrs UCAS.
Bydd arnoch angen y manylion canlynol:
Côd Cwrs - HC04, Côd Sefydliad - C16, Côd Campus - B, Enw Campws - Campws Y Barri
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:
- Ymarfer Myfyriol
- Gweithio Rhyngasiantaethol mewn Camddefnyddio Sylweddau
- Deddfwriaeth a Pholisiau mewn Camddefnyddio Sylweddau
- Materion Cyfredol mewn Camddefnyddio Sylweddau
- Cyflwyniad i Ymarfer yn Seiliedig ar Dystiolaeth
- Caethiwed
Bydd astudio'r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i ddysgu a deall rhagor am:
- Ymyraethau gostwng niwed ac ymatal
- Fframweithiau cenedlaethol a lleol
- Cael cyfle i archwilio’r sgiliau rhyng-bersonol angenrheidiol i weithio gyda'r grŵp cleientiaid hyn
- Asiantaethau arbenigol ac an-arbenigol a gweithio partneriaethol effeithiol
- Y cymorth sydd ar gael i bobl yn lleol a sut i gael mynediad at wasanaethau
Cyfleusterau
Mae Campws Y Barri wedi bod yn bencadlys poblogaidd i'r Coleg ers mwy na 50 mlynedd. Mae gan y safle helaeth hwn ystod anferth o adnoddau ac y mae yno hefyd ffreutur prysur, siop a siop goffi ar safle ar gyfer y dysgwyr .
Bydd gan fyfyrwyr ar y cwrs hwn fynediad at Lyfrgell eithriadol o safonol a Chanolfan Sgiliau, ardal Astudio AU, mynediad at adnoddau TGCh, yn cynnwys Moodle VLE a pharth astudio tawel.
Addysgu ac Asesu
Bydd myfyrwyr yn mynychu am 30 wythnos y flwyddyn ar y rhaglen lawn amser
Mae dulliau addysgu yn cynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, cyflwyniadau, gwaith grŵp a thrafodaeth
Seilir yr asesiad ar gyfer y cwrs ar aseiniadau ysgrifenedig; cyflwyniadau, portffolios ac asesiad ymarferol
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Dysgu: £9,000.00
Gofynion mynediad
Ystyrir ceisiadau i'r cwrs yn unigol. Mae manylion y gofynion mynediad nodweddiadol isod ond os nad ydych yn bodloni'r meini prawf hyn, yna bydd eich profiad gwaith a bywyd yn cael ei ystyried.
Rydym yn derbyn cyfuniadau o'r cymwysterau isod ac mae'n bosib y derbynnir cymwysterau eraill nad ydynt wedi'u nodi ar sail unigol:
- Cynnig Safon Uwch Nodweddiadol – CC mewn pynciau perthnasol
- Cynnig BTEC Nodweddiadol – Diploma Estynedig Cenedlaethol (MPP), Lefel 3 Diploma Cenedlaethol (MM) mewn pwnc perthnasol.
- Cynnig Bagloriaeth Cymru Nodweddiadol – O leiaf gradd C ac un Safon Uwch, gradd C mewn pwnc perthnasol.
- Cynnig Mynediad at Addysg Uwch Nodweddiadol - Cyflawni Diploma gyda 45 credyd ar lefel 3, 15 ar sail Teilyngdod, 30 ar sail Llwyddo.
Yn ogystal, llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C/gradd 4 neu uwch i gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith (neu gyfwerth). Gall cyfweliad llwyddiannus hefyd fod yn ofyniad i sicrhau lle ar y cwrs. Yn ychwanegol at hynny, bydd CAVC yn ystyried dysg flaenorol ymgeiswyr wrth ystyried eu cais am le ar y rhaglen drwy Gydnabod Dysgu Blaenorol.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Bydd y cymhwyster hwn yn gwella rhagolygon gyrfa o fewn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn arbennig gweithio gydag asiantaethau gwirfoddol yn delio â chamddefnyddio sylweddau ac fel gweithwyr cynghori mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu