BSc (Hons) mewn Seiberddiogelwch
Ynghylch y cwrs hwn
Wrth i fwy o bobl dreulio fwyfwy o amser ar-lein, mae'r data y maent yn ei gynhyrchu yn cynyddu. Os nad oes gan sefydliadau a chwmnïau systemau gwybodaeth diogel yna gall data fynd i'r dwylo anghywir, sy'n gallu achosi canlyniadau peryglus. Mae'r cwrs BSc mewn Seiberddiogelwch hwn wedi'i ddylunio i hyfforddi gweithwyr proffesiynol ym maes diogelwch y dyfodol, gan gyfuno cysyniadau ac egwyddorion sylfaenol ag amlygiad i dechnolegau a datrysiadau newydd.
Bydd myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth ymarferol o'r prif faterion sy'n gysylltiedig â dylunio, dadansoddi a gweithredu systemau diogelwch TG modern. Bydd y cwrs yn datblygu gallu myfyrwyr i adnabod y materion cyfreithiol, cymdeithasol, moesegol a phroffesiynol sy'n ymwneud ag amlygu technoleg Seiberddiogelwch a chael eu harwain drwy fabwysiadu arferion proffesiynol, moesegol a chyfreithiol priodol.
Mae'r cwrs wedi'i ddylunio i fodloni anghenion y diwydiant/gofynion y farchnad swyddi, a chynhyrchu graddedigion sy'n wybodus ac sydd wedi'u cyfarparu'n addas i fodloni anghenion y diwydiant. Bydd myfyrwyr sy'n astudio ar y radd seiberddiogelwch hon yn:
- meithrin y sgiliau sydd eu hangen i fynd i'r afael â systemau diogelwch modern
- datblygu gwerthfawrogiad o gyfarpar, meddalwedd a gwasanaethau Seiberddiogelwch masnachol a chod agored
- dysgu'r arferion rheoli a chymwysiadau sy'n ganolog i faterion Seiberddiogelwch
- datblygu sgiliau rhyngbersonol a chraffter busnes.
Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs – BS01, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - A, Enw Campws – Campws Canol y Ddinas
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Blwyddyn 1
- Pensaernïaeth Cyfrifiadur
- Rhaglennu
- Mathemateg ar gyfer Cyfrifiadura
- Algorithmau a Mathau o Ddata
- Systemau Gwybodaeth a Chronfeydd Data (ISDB)
- Seiberddiogelwch mewn Cymdeithas
Blwyddyn 2
- Cryptograffeg Gymhwysol
- Theori Cyfrifiad
- Deallusrwydd Artiffisial
- Rhwydwaith a Diogelwch
- Dadansoddiad o Ddiogelwch Seiber
- Prosiect Ymchwil Grŵp
Blwyddyn 3
- Rheoli Diogelwch Menter
- Trosedd Seiber
- Dysgu Peirianyddol
- Pynciau Uwch mewn Seiberddiogelwch
- Prosiect
Yn amodol ar gymeradwyaeth gan Brifysgol Gorllewin Llundain mewn digwyddiad cymeradwyo ym Mehefin 2020.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Dysgu: £9,000.00
Gofynion mynediad
Pwyntiau UCAS 112-120. Gall hyn gynnwys;
- Lefel A gradd B, B a C, neu uwch
- Diploma Estynedig BTEC gyda Rhagoriaeth, Teilyngdod, Teilyngdod
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch
- Byddwch hefyd angen TGAU Saesneg a Mathemateg (gradd 9-4 / A* - C) neu Lefel 2 sydd yn gyfwerth
Ymgeiswyr hŷn (21+ oed): Os nad yw’r cymwysterau a nodir gennych, ond mae gennych y profiad gwaith perthnasol, mae croeso i chi ymgeisio. Bydd eich cais yn cael ei ystyried ar sail unigol.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Wedi'i achredu gan:
Cyfleusterau
Mwy...
Dwi wedi bod yn astudio TG yn y Coleg ac mae’r cwrs HND yma’n wych gan ei fod yn fwy trylwyr ar y lefel yma ac wedi ei ddarparu mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru. Dwi wedi cael profiad o ddatblygu gwefannau yn ogystal â rhaglennu, cronfeydd data ac erbyn hyn agweddau ymarferol fel cyfryngau digidol – sy’n cynnwys Photoshop, HTML a chynhyrchu gwefannau trwy Rich Media. Mae’r sgiliau yma yn drosglwyddadwy iawn. Mae’r tiwtoriaid yn gymwynasgar iawn – dwi’n gallu gofyn am gyngor pryd bynnag y byddaf ei angen.
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Mae gofyn mawr am weithwyr proffesiynol yn y maes Seiberddiogelwch ar draws bob diwydiant. Yn gyffredinol mae gan raddedigion Seiberddiogelwch record dda o ennill cyflogaeth a mynd ymlaen yn eu gwaith proffesiynol. Bydd graddedigion y cwrs BSc (Anrh) Seiberddiogelwch yn gallu ennill cyflogaeth fel arbenigwyr Seiberddiogelwch mewn ystod eang o sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys gorfodi'r gyfraith, asiantaethau'r llywodraeth ac ymgynghoriaethau diogelwch, neu mewn adrannau TG masnachol a swyddi cyfrifiadura eraill lle mae diogelwch cyfrifiadurol yn codi. Er enghraifft, mae swyddi poblogaidd i raddedigion Seiberddiogelwch BSc yn cynnwys
- technegydd rhwydwaith neu ddiogelwch cyfrifiadurol
- swyddog diogelwch cyfrifiadurol neu rwydwaith
- swyddog adnabod a rheoli mynediad
- dadansoddwr ymateb i fygythiadau a digwyddiadau
- swyddog preifatrwydd data
- ymgynghorydd diogelu data
- dadansoddwr gweithrediadau diogelwch
- pensaer diogelwch cwmwl
- ymgynghorwr diogelwch
- rheolwr cysondeb busnes
- rheolwr risg gwybodaeth
- rheolwr rheoli gwybodaeth
- cryptograffwr/cryptolegwr
- datblygwr meddalwedd diogelwch
- archwilydd cod ffynhonnell
- technegydd firysau.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu