Almaeneg -TGAU

L2 Lefel 2
Rhan Amser
3 Medi 2024 — 28 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynglŷn â'r cwrs

Mae Almaeneg - TGAU yn gwrs dwys un flwyddyn. Er bod y cwrs yn addas i ddechreuwyr, argymhellir bod gennych chi rywfaint o ddealltwriaeth o Almaeneg. Bydd myfyrwyr yn ymarfer y pedair sgil iaith o ddarllen, siarad, gwrando ac ysgrifennu ac fe’i hanogir i ddefnyddio’r iaith darged ble bynnag fo’n bosibl.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Bydd y cynnwys a astudir yn cwmpasu'r cyd-destunau canlynol:

Bywyd personol a chymdeithasol

Hunan, teulu, ffrindiau, bywyd yn y cartref, siopa, prydau, byw’n iach, salwch a damweiniau, amser rhydd, ffasiwn, perthnasau, cynlluniau ar gyfer y dyfodol. 

Cymuned leol

Tref gartref, ysgol, addysg, amgylchedd lleol, llygredd, ailgylchi, cyfleusterau lleol, cymariaethau gyda threfi a rhanbarthau eraill, tywydd a thymhorau.

Byd gwaith Profiad gwaith, swyddi rhan-amser, gyrfaoedd y dyfodol, technoleg (anfon negeseuon, ael gafael ar wybodaeth).

Y byd ehangach

Teithio a gwyliau, cyfryngau, materion cymdeithasol (e.e. Bywydau pobl ifanc heddiw, digartrefedd, troseddau, cyffuriau, byw'n iach, crefydd, gwleidyddiaeth), bywyd yn y gwledydd a chymunedau ble siaredir yr iaith.

Mae’r maes llafur yn cynnwys pedwar papur wedi eu rhannu yn ddwy lefel - Sylfaen (cyfatebol i raddau C-G) ac Uwch (A*-D).

Mae pwysiad y 4 sgil iaith fel a ganlyn:

Uned 1: Gwrando (20%)

Uned 2: Siarad (30%)

Uned 3: Darllen (20%)

Uned 4: Ysgrifennu (30%)

Mae’r cydrannau Siarad ac Ysgrifennu yn cael eu hasesu rhwng Ionawr ac Ebrill yn ystod amser gwersi. Rhaid cwblhau dwy dasg asesiad a reolir ar gyfer Ysgrifennu ac mae’r rhain ill dwy yn 1 awr o hyd. Mae’r Siarad hefyd yn cynnwys dau asesiad a reolir: Sgwrs strwythuredig, 4–5 munud a Chyflwyniad a thrafodaeth, 5–7 munud. Ceir arholiad Gwrando a Darllen ym mis Mai.

Gwrando ac Ymateb: 35 munud ar gyfer Haen Sylfaen, 45 ar gyfer Haen Uwch.

Darllen ac Ymateb: 35 munud ar gyfer Haen Sylfaen, 45 ar gyfer Haen Uwch. Gall myfyrwyr ddefnyddio’r cyfleusterau TG yn y coleg wedi eu lleoli yn y Ganolfan Ddysgu ac yn yr Ystafelloedd Mynediad Agored ble mae cymorth ar gael.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Arholiad : £35.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00

Ffi Cwrs: £380.00

Gofynion mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion. Dylai myfyrwyr llawn amser fod ag isafswm o 4 TGAU Gradd D.

Amseroedd cwrs

17:45 - 20:45 Dydd Iau

Addysgu ac Asesu

  • Asesiadau parhaus

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

28 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

GCCC2E11
L2

Cymhwyster

CBAC TGAU Lefel 1/Lefel 2 mewn Almaeneg

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE