Cymdeithaseg TGAU
Ynghylch y cwrs hwn
Mae'r cwrs hwn yn ffurfio rhan o'r rhaglen Sixth Form Flex. Dylai dysgwyr ar y rhaglen hon ddewis yr opsiwn hwn os ydynt yn bwriadu cwblhau'r rhaglen Sixth Form Flex, er mwyn gwneud cais i astudio Economeg, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol a Chymdeithaseg Safon Uwch, ymhlith rhai eraill.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Mae'r cymhwyster hwn wedi'i rannu'n 2 Uned:
Uned 1: Deall Prosesau Cymdeithasol
Mae'r gydran hon yn ymdrin â'r meysydd pwnc canlynol:
- Cysyniadau a phrosesau allweddol o drosglwyddiad diwylliannol
- Teuluoedd
- Addysg
- Dulliau ymchwil cymdeithasegol
Asesiad ysgrifenedig gyda chymysgedd o atebion byr, cwestiynau wedi'u strwythuro a chwestiynau atebion estynedig, ac mae pob un yn orfodol. Bydd y cwestiynau atebion estynedig yn gofyn i ymgeiswyr ddod â gwahanol feysydd o wybodaeth, sgiliau a/neu ddealltwriaeth ynghyd, o'r cynnwys manyleb perthnasol.
Uned 2: Deall Strwythurau Cymdeithasol
Mae'r gydran hon yn ymdrin â'r meysydd pwnc canlynol:
- Gwahaniaethu a haenau cymdeithasol
- Trosedd a gwyrni
- Dulliau cymhwysol o ymholi cymdeithasegol
Asesiad ysgrifenedig gyda chymysgedd o atebion byr, cwestiynau wedi'u strwythuro a chwestiynau lle ellir rhoi atebion estynedig, ac mae pob un yn orfodol. Bydd y cwestiynau gydag atebion estynedig yn gofyn i ymgeiswyr ddod â gwahanol feysydd o wybodaeth, sgiliau a/neu ddealltwriaeth ynghyd, o'r cynnwys manyleb perthnasol.
Dulliau addysgu ac asesu
4 awr yr wythnos o ddarpariaeth. 2 awr o gyswllt a 2 awr o ddarpariaeth ar-lein.
Asesiad
Uned 1: Datblygiadau Allweddol yn Ffilm yr UD
Arholiad Ysgrifenedig gwerth 50% o'r Cymhwyster
Uned 2: Ffilm Fyd-eang: Naratif, Cynrychiolaeth ac Arddull Ffilm
Arholiad Ysgrifenedig gwerth 50% o'r Cymhwyster
Gofynion mynediad
4 TGAU Gradd A*-D, gan gynnwys Iaith Saesneg.
Ar ôl i chi wneud cais, byddwch yn cael gwahoddiad i Ddigwyddiad Gwybodaeth. Mae mynychu’r digwyddiad yn ofyniad mynediad, ynghyd ag unrhyw beth a nodir uchod. Byddai’n fanteisiol i’ch cais pe gallech ddod â thystiolaeth o’ch graddau a ragwelir neu gymwysterau rydych wedi’u hennill.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Ar ôl cwblhau y cwrs blwyddyn hwn, bydd gan fyfyrwyr nifer o opsiynau o ran dilyniant mewnol yn dibynnu ar ganlyniadau pob cymhwyster. Bydd y rhain yn amrywio o fynd ymlaen i gwblhau 3 cymhwyster Safon Uwch gyda Bagloriaeth Cymru, i ddechrau Diploma Lefel 3 neu Ddiploma Estynedig mewn cwrs galwedigaethol. Yn dibynnu ar yr opsiwn a ddewisir, bydd hyn yn cynnwys blwyddyn neu 2 flynedd ychwanegol o astudio.