Llwybr Carlam Safon Uwch mewn Mathemateg Bellach

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 17 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae'r cwrs hwn wedi ei gynllunio'n bennaf ar gyfer myfyrwyr sy'n bwriadu astudio ar gyfer graddau sydd â mathemateg yn elfen gref iawn ohonynt. Ar ôl blwyddyn bydd gennych Lefel A lawn mewn Mathemateg Bellach, byddwch yn cael dwywaith maint y gwersi Lefel A sylfaenol bob wythnos er mwyn cyflawni hyn.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Byddwch yn astudio ystod o fodiwlau mathemategol, gan gynnwys mathemateg bur, ystadegau a mecaneg.

Bydd yna bump arholiad:

  • Uned 1 Mathemateg Bur bellach A
    • Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud; 13.3% o’r cymhwyster
  • Uned 2 ystadegau pellach A
    • Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud; 13.3% o’r cymhwyster
  • Uned 3 mecaneg bellach A
    • Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud; 13.3% o’r cymhwyster
  • Uned 4 mathemateg bur bellach B
    • Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 30 munud; 35% o’r cymhwyster
  • Uned 6 mecaneg bellach B
    • Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud; 25%

Nodwch fod dewis o uned 5 neu uned 6 ar gyfer mathemateg bellach A2 ac rydym yn cyflwyno uned 6.

Addysgu ac Asesu

  • Dau arholiad

Gofynion mynediad

Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

17 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

9 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F36
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Lefel 3 mewn Mathemateg Bellach

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.”

Kuba Lewandowski
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae’r mwyafrif o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Gwyddoniaeth Actiwaraidd
  • Peirianneg Awyrennol
  • Peirianneg Gemegol
  • Peirianneg Sifil
  • Economeg
  • Peirianneg Drydanol/Electronig
  • Peirianneg (Cyffredinol)
  • Mathemateg
  • Peirianneg Fecanyddol
  • Ffiseg
  • Ystadegau

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE