Mae’r cwrs Ffrangeg TGAU hwn yn gwrs un flwyddyn ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau datblygu gwell dealltwriaeth o gymdeithas, iaith a diwylliant Ffrainc. Mae’n ceisio datblygu cymhwyster cyffredinol, sgiliau cyfathrebu a dealltwriaeth ramadegol yn y Ffrangeg, ac yn ffordd o baratoi i unrhyw un sydd eisiau parhau gyda’u hastudiaethau ar Safon Uwch. Fodd bynnag, yn bennaf oll, mae’r cwrs ar gyfer unrhyw un sy'n hoffi Ffrainc a’r Ffrangeg.
Er bod y cwrs yn addas i ddechreuwyr, argymhellir bod gennych chi rywfaint o ddealltwriaeth o Ffrangeg.
Mae’r cwrs yn cwmpasu'r meysydd pynciau canlynol:
Bywyd personol a chymdeithasol
Hunan, teulu, ffrindiau, bywyd yn y cartref, siopa, prydau, byw’n iach, salwch a damweiniau, amser rhydd, ffasiwn, perthnasau, cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Cymuned leol
Tref gartref, ysgol, addysg, amgylchedd lleol, llygredd, ailgylchi, cyfleusterau lleol, cymariaethau gyda threfi a rhanbarthau eraill, tywydd a thymhorau.
Byd gwaith
Profiad gwaith, swyddi rhan-amser, gyrfaoedd y dyfodol, technoleg (anfon negeseuon, ael gafael ar wybodaeth).
Y byd ehangach
Teithio a gwyliau, cyfryngau, materion cymdeithasol (e.e. Bywydau pobl ifanc heddiw, digartrefedd, troseddau, cyffuriau, byw'n iach, crefydd, gwleidyddiaeth), bywyd yn y gwledydd a chymunedau ble siaredir yr iaith.
Mae’r maes llafur yn cynnwys pedwar papur wedi eu rhannu yn ddwy lefel - Sylfaen (cyfatebol i raddau C-G) ac Uwch (A*-D).
Fe brofir pedair elfen - asesir Gwrando, Siarad, Darllen ac Ysgrifennu yn eu trefn ar: 20%, 30%, 20% a 30%.
Mae’r cydrannau Siarad ac Ysgrifennu yn cael eu hasesu rhwng Ionawr ac Ebrill yn ystod amser gwersi. Rhaid cwblhau dwy dasg asesiad a reolir ar gyfer Ysgrifennu ac mae’r rhain ill dwy yn 1 awr o hyd.
Mae’r Siarad hefyd yn cynnwys dau asesiad a reolir: Sgwrs strwythuredig, 4–5 munud a Chyflwyniad a thrafodaeth, 5–7 munud. Ceir arholiad Gwrando a Darllen ym mis Mai. Gwrando ac Ymateb: 35 munud ar gyfer Haen Sylfaen, 45 ar gyfer Haen Uwch. Darllen ac Ymateb: 35 munud ar gyfer Haen Sylfaen, 45 ar gyfer Haen Uwch. Gall myfyrwyr ddefnyddio’r cyfleusterau TG yn y coleg wedi eu lleoli yn y Ganolfan Ddysgu ac yn yr Ystafelloedd Mynediad Agored ble mae cymorth ar gael.
Llyfrau'r cwrs:
Breakthrough French 1, Euro edition gan Stephanie Rybak
GCSE French grammar workbook gan Marian Jones a Gill Maynard
[Please type here course content]
[Please type here course content]
Ffi Cwrs: £380.00
Ffi Arholiad : £35.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion. Dylai myfyrwyr llawn amser fod ag isafswm o 4 TGAU Gradd D.
17:45 - 20:45 Dydd Mercher
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.