Gradd Sylfaen mewn Arbenigaeth Chwarae Gofal Iechyd

L5 Lefel 5
Rhan Amser
14 Medi 2020 — 21 Mai 2022
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae hwn yn gymhwyster dwy flynedd, rhan-amser wedi ei ddilysu gan Brifysgol Gorllewin Llundain. Wedi ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Hospital Play Staff Education Trust (HPSET), mae’r rhaglen hon wedi ei dylunio i’ch galluogi chi, fel ymarferydd Lefel 3, i ymgymryd â’r astudiaethau academaidd ychwanegol ac ymarfer sgiliau sy’n ofynnol i weithio tuag at ennill statws graddedig fel arbenigwr chwarae iechyd (HPS). O’r cychwyn, byddwch yn datblygu’n weithredol eich sgiliau astudio ac yn ehangu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i ddatblygu eich sgiliau wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc sâl a’u teuluoedd. Mae’r cwrs dwys hwn yn gofyn am waith annibynnol sylweddol i ychwanegu at yr wybodaeth a’r sgiliau a ddatblygir yn y dosbarth, y tu hwnt i’r coleg.

Y ogystal â mynychu'r coleg am un diwrnod yr wythnos, mae gofyn i ymgeiswyr sicrhau lleoliad o dan arweiniad Healthcare Play Specialist Education Trust cofrestredig, ac Arbenigwr Chwarae Gofal Iechyd. Mae angen cwblhau 200 awr o ymarfer yn y lleoliad bob blwyddyn fydd yn cael eu hasesu ar ôl cwblhau portffolio o dystiolaeth yn arddangos llwyddiant nifer o alluoedd. 

Beth fyddwch yn ei astudio?

Deilliannau dysgu Blwyddyn 1:

  • Adnabod yr egwyddorion sefydlefig ar gyfer gweithio gyda phlant sâl, pobl ifanc a'u teuluoedd a'r ffordd y mae'r egwyddorion hynny wedi'I datblygu
  • Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ddamcaniaeth a gwaith ymchwil ar ddatblygiad plant sy'n berthynol i hamdden a chwarae arbenigol
  • Archwilio cyfleoedd i ddatblygu ymarfer seiliedig ar bersbectifau cyfredol, cyfreithiol a moesegol.
  • Gwerthuso'ch ymarfer proffesiynol eich hun trwy ddatblygu nodau personol, proffesiynol a strategol

Deilliannau Dysgu Blwyddyn 2

  • Dadansoddi a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth gritigol o'r egwyddorion ar gyfer gweithio gyda phlant sâl, pobl ifanc a'u teuluoedd sydd wedi'u hen sefydlu a'r ffordd y mae'r egwyddorion hynny wedi datblygu
  • Gwerthuso a chymhwyso cysyniadau ac egwyddorion sylfaenol ar gyfer gweithio gyda phlant sâl, pobl ifanc a'u teuluoedd a chymhwyso'r egwyddorion hynny mewn cyd-destun gwaith i lywio gwaith cynllunio
  • Dangos pwysigrwydd myfyrio wrth weithredu polisi'n ymarferol *Gwerthuso'n gritigol y gwahanol ffyrdd o fynd ati i ddatrys problemau a chymhwyso'r rhain mewn cyd--destun gwaith
  • Asesu, adolygu a gwerthuso persbectifau damcaniaethol sy'n berthnasol i Blant a Phobl Ifanc: Rolau Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn gweithio gyda phlant sâl a phobl ifanc

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu i gefnogi deilliannau modiwlau. Ymhlith y dulliau asesu a ddefnyddir mae: traethodau academaidd, adolygu llenyddiaeth, adroddiadau ysgrifenedig, ffolder tystiolaeth ac ymarferion trwy Moodle (Amgylchedd Dysgu Rhithwyr y Coleg) - byddir hefyd yn asesu sgiliau ymarferol yn y gweithle yn Lefelau 4 a 5.

Gofynion mynediad

Cymhwyster Lefel 3 Blynyddoedd Cynnar neu faes perthnasol gyda dwy flynedd o brofiad gwaith ar ôl cymhwyso, eto mewn maes perthnasol. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos/tystiolaethu Sgiliau Llythrennedd a Rhifedd Lefel 2. Mae'r rhaglen astudio'n agored i staff a gaiff eu cyflogi yn y sector a staff gwirfoddol. Mae disgwyl i ymgeiswyr fod wedi trefnu eu lleoliad gwaith cyn cofrestru ar y rhaglen.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiadau ysgrifenedig ac ar-lein ac yn y gwaith

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni/gwarcheidwaid myfyrwyr dan 18
  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ag anableddau
  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n parchu amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hyrwyddo cydraddoldeb cyfle a thrin pawb yn deg a chyda pharch *Ceidw Coleg Caerdydd a'r Fro'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb roi rhybudd ymlaen llaw
  • Mae'r holl gyrsiau'n gywir adeg eu huwchlwytho neu eu hargraffu *Nid oes modd cynnal cyrsiau onid yw'r niferoedd yn ddigonol A fyddech cystal â nodi, os byddwch yn dewiswch tri neu fwy o ddewisiadau cwrs, efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaeodd yn gyntaf. NId yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Lefel A neu TGAU.
Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

14 Medi 2020

Dyddiad gorffen

21 Mai 2022

Amser o'r dydd

Diwrnod/ Amser

Rhan Amser

6.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

TLCC5P02
L5

Cymhwyster

Foundation Degree in Childhood Studies

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Rydw i’n byw ym Mryste ac yn teithio i Gampws Canol y Ddinas ar drên ac mae’r profiad wedi bod yn grêt. Rydw i wedi cael amrywiaeth o diwtoriaid ac wedi gallu meithrin perthnasoedd da gyda nhw. Gyda dosbarthiadau o faint llai, roedd yn grêt dod i adnabod pawb ac roedd hynny o help mawr i fy nghael i i ble rydw i heddiw. Ar sail fy mhrofiad i, fe fyddwn i’n dweud ei fod yn gyfle gwych, ond mae’n rhaid i chi ddangos ymroddiad i roi’r oriau i mewn yn ychwanegol at yr oriau gyda’r tiwtor. Os ydych chi’n angerddol amdano fe, ewch amdani.

Thomas Lonsdale
Myfyriwr Graddedig - Gradd Sylfaen Arbenigedd Chwarae Gofal Iechyd
Fideos

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cefnogaeth Dysgu

Mae ein timau cefnogi ymroddedig yn cynnig cefnogaeth gydag anghenion dysgu ychwanegol, cyllid myfyrwyr a mwy.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE