Astudiaethau Ffilm - A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 7 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Astudiaethau Ffilm A2 yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae Astudiaethau Ffilm A2 yn dilyn ymlaen o UG ac yn cynnwys y ddau fodiwl canlynol:

Modiwl FM3: Prosiect Ymchwil a Gwaith Creadigol

Mae’r modiwl hwn yn cynnwys prosiect ymchwil ar raddfa fechan yn dadansoddi gwaith seren, cyfarwyddwr neu dîm cynhyrchu penodol. Bydd y pwyslais ar waith creadigol y testun, a’ch ymatebion personol eich hun. Mae’n cynnwys catalog anodedig, sgript cyflwyno a gwerthusiad. Yna byddwch yn cael cyfle i ehangu ar y prosiect trwy ddatblygu triniaeth o'r aseiniad.

Asesir y modiwl yn fewnol a thrwy gymedroli allanol. Bydd portffolio gwaith cwrs (gwerth 50% o'r marc cyffredinol A2) yn cael ei gyflwyno yn cynnwys casgliad o ddeunyddiau (delweddau, adolygiadau, erthyglau ac ati) a chasgliadau ymchwil. Bydd y gwaith creadigol yn cynnwys yr ymdriniaeth o’ch prosiect ymchwil.

Modiwl FM4: Ymatebion Beirniadol i Sinema

Mae’r ffocws yma ar astudio tair agwedd benodol o sinema fyd eang, yn cynnwys dadansoddiad o'r Gweddau Newydd Sinematig, Cynulleidfaoedd ac Astudiaeth Feirniadol o un ffilm. Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar gyd-destun hanesyddol a chymdeithasol sinema byd eang, yn ogystal â dadansoddiad synoptig manwl o Vertigo Alfred Hitchcock. Bydd hefyd yn archwilio’r berthynas rhwng ffilmiau a chynulleidfaoedd ac yn cynnwys cyfuniad o ffilmiau cynnar, clasurol a chyfoes.

Mae’r modiwl hwn yn cael ei asesu'n allanol gyda phapur 2 ½ awr.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £0.00

Gofynion mynediad

Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.

Addysgu ac Asesu

  • Un arholiad ysgrifenedig a gwaith cwrs

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

7 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F05
L3

Cymhwyster

CBAC Eduqas TAG Uwch Lefel 3 mewn Astudiaethau Ffilm

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.”

Kuba Lewandowski
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Y Celfyddydau
  • Saesneg
  • Astudiaethau Ffilm 

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE