TG

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r cwrs Technoleg Gwybodaeth Lefel 2 hwn yn ymarferol ac yn gysylltiedig â gwaith ar gyfer y rhai hynny sydd â diddordeb mewn cyfrifiaduron.

Byddwch yn dysgu drwy gwblhau aseiniadau a phrosiectau yn seiliedig ar weithgareddau, sefyllfaoedd a gofynion gweithleoedd go iawn.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae'r cwrs hwn yn ymdrin ag amrywiaeth o feysydd pwnc, gan roi gwybodaeth drylwyr am lwybrau gyfra cyfrifiadureg:

  • Y Byd Ar-lein
  • Systemau technoleg
  • Portffolio digidol
  • Datblygu gwefan
  • Amlgyfrwng
  • Datblygu meddalwedd

Gofynion mynediad

4 TGAU graddau A*- D gan gynnwys Saesneg a Mathemateg neu Ddiploma Lefel 1 mewn TG gyda phroffil teilyngdod neu gymhwyster galwedigaethol cysylltiedig arall. Bydd angen i chi fynychu cyfweliad a gwneud asesiad mewn llythrennedd a rhifedd.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Fe wnes i fwynhau’r holl wahanol unedau ac aseiniadau oedd angen llawer o ymchwil ar fy nghwrs. Fy hoff beth am CAVC ydy fod y cyfleusterau ar gael i ni eu defnyddio 24/7.”

Heather Curtis Rich
Astudio Technoleg Gwybodaeth a Chyfrifiadura

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

28%

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd glwstwr digidol llewyrchus gyda rhagamcanion o 6,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025, sy’n gyfanswm twf o 28% (EMSI 2019).
  • Cyflogaeth
  • Dilyniant i Gyfrifiadura Lefel 3
  • Prentisiaethau