ESOL + Adeiladu
Ynglŷn â'r cwrs
Cynhelir y cwrs Lefel Mynediad 3 hwn dros gyfnod o bedwar diwrnod a bydd myfyrwyr yn mynychu am 16 awr yr wythnos. Cynhelir gwersi ar ein safle CCTC ar Heol Dumballs.
Mae’r elfen ESOL o’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar y sgiliau iaith – darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad. Mae gramadeg a geirfa arbenigol mewn perthynas ag adeiladu hefyd yn rhan bwysig o’r cwrs hwn. Bydd myfyrwyr yn gallu datblygu’r meysydd hyn a fydd yn eu cefnogi gyda’r elfen Adeiladu o’r cwrs.
Oferôls ac esgidiau diogelwch yn ofynnol.
Mae’r cwrs yma ar gael am:
- 16 awr yr wythnos
Beth fyddwch yn ei astudio?
Mae’r elfen Adeiladu o’r cwrs hwn yn dilyn rhaglen hyfforddiant fodiwlaidd ac yn cynnwys y canlynol:
- Iechyd a Diogelwch
- Gweithio a Chyfathrebu ym maes Adeiladu
- Crefftau
- Gwaith Coed
- Plastro
- Gwaith Brics
- Teilsio
- Peintio ac Addurno.
Cynhelir y sesiynau ymarferol hyn mewn gweithdai sy’n cynnwys yr holl adnoddau, gan alluogi dysgwyr i ymgyfarwyddo â gweithio o fewn amgylchedd adeiladu.
Mae’r cwrs hwn yn ffurfio sylfaen yr wybodaeth sy’n ofynnol i fynd ymlaen i gwrs Diploma Lefel 1 mewn Adeiladu ar lefel uwch.
Bydd y cwrs yn paratoi dysgwyr ar gyfer cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol mewn ESOL ac Adeiladu. Bydd myfyrwyr hefyd yn astudio Rhifedd fel rhan o’r rhaglen, a fydd yn arwain at gymhwyster cydnabyddedig.
Bydd myfyrwyr sy’n cofrestru ar y cyrsiau hyn angen ymrwymo’n llawn gan ein bod yn disgwyl cyfradd presenoldeb o 100%. Bydd myfyrwyr y mae eu presenoldeb yn disgyn o dan 90% yn wynebu’r risg o golli eu lle.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £30.00
Cit/Deunyddiau : £30.00
Gofynion mynediad
Asesiad ar Lefel Mynediad 3. Fel dewis arall, cwblhau Lefel Mynediad 2 yn llwyddiannus a geirda boddhaol gan diwtor i ddynodi ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da.
Addysgu ac Asesu
- Asesiadau rheolaidd, aseiniadau rheolaidd ac asesiad diwedd blwyddyn
Pwyntiau pwysig
- Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr dan 18 oed
- Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau
- Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn ymrwymedig i gynhwysedd ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hyrwyddo cyfle cyfartal ac i drin pawb yn deg a chyda pharch
- Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
- Mae'r holl gyrsiau'n gywir ar adeg eu lanlwytho neu eu hargraffu
- Ni allwn redeg cyrsiau heb nifer digonol o fyfyrwyr
- Sylwer: os dewiswch dri neu fwy o ddewisiadau cwrs, yna fe allech chi gael eich cyfeirio at apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Mwy
Symudais o Rwmania ddwy flynedd a hanner yn ôl. Dechreuais yn y coleg yn astudio cwrs ESOL, ac rwyf nawr wedi symud ymlaen i astudio Cwrs Mynediad mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol BTEC. Roedd y cwrs ESOL yn ddefnyddiol iawn, ac roedd pawb yn gyfeillgar.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu