Cyfrifiadura gyda Datblygu Gemau a Chodio

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein cwrs Cyfrifiadura gyda Datblygu Gemau a Chodio yn Ddiploma Estynedig Lefel 3 BTEC dwy flynedd mewn Cyfrifiadura ac mae'n cyfateb i dri chymhwyster Safon Uwch. Bydd myfyrwyr sy'n ennill y cymhwyster hwn naill ai'n mynd ymlaen i astudio cymhwyster cyfrifiadura neu gymhwyster sy'n gysylltiedig ag IT yn y Brifysgol neu i gael gwaith. Mae gan y cwrs hwn bwyslais ar ddatblygu gemau a chodio. 
Mae hwn yn faes twf ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth wrth i nifer y dyfeisiau TG barhau i dyfu, mae'r galw am staff sy'n gallu eu codio yn cynyddu. Cewch gyfle i ddysgu sawl iaith raglennu a byddwch yn dysgu datblygu gemau a chymwysiadau symudol.  Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau sy'n amrywio o adnabod a disodli cydrannau sylfaenol cyfrifiadur i gysylltu rhwydwaith o gyfrifiaduron o fewn cwmni.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Yn y Diploma Estynedig hwn mewn Cyfrifiadura byddwch yn astudio unedau gan gynnwys:

Blwyddyn 1

  • Egwyddorion Cyfrifiadureg – rhaglennu
  • Datblygu Gemau Cyfrifiadur
  • Diogelwch ac Amgryptiad Systemau TG
  • Datblygu Apiau Symudol

Blwyddyn 2

  • Prosiect Dylunio a Datblygu Meddalwedd
  • Rhwydweithio Cyfrifiadurol
  • Cynllunio a Rheoli Prosiectau Cyfrifiadura
  • Dadansoddi a Dylunio Systemau

Gofynion mynediad

5 TGAU Graddau A* - C gan gynnwys Iaith Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth) neu gymhwyster Busnes Lefel 2 gyda phroffil Teilyngdod. Bydd angen sgôr IELTS o 6.5 neu uwch ar fyfyrwyr rhyngwladol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Fe wnes i fwynhau’r holl wahanol unedau ac aseiniadau oedd angen llawer o ymchwil ar fy nghwrs. Fy hoff beth am CAVC ydy fod y cyfleusterau ar gael i ni eu defnyddio 24/7.”

Heather Curtis Rich
Astudio Technoleg Gwybodaeth a Chyfrifiadura

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

28%

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd glwstwr digidol llewyrchus gyda rhagamcanion o 6,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025, sy’n gyfanswm twf o 28% (EMSI 2019).

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen i'r Diploma Estynedig mewn Cyfrifiadureg. Bydd llawer o fyfyrwyr hefyd yn manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth amrywiol yn y diwydiant.