Llenyddiaeth/Iaith Saesneg - A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
31 Awst 2020 — 11 Mehefin 2021
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r Iaith a Llenyddiaeth Saesneg – A2 yma yn gwrs un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Gall fod yn bosibl dilyn y cwrs hwn fel myfyriwr rhan amser. Mae Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yn gwrs cyffrous sy'n ceisio bod mor amrywiol â phosibl. Byddwch yn astudio a gweithredu sgiliau dadansoddiad llenyddol ac ieithyddol i ystod eang o destunau, yn cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a drama, yn ogystal â ffeithiol ac iaith lafar, ac yn cynhyrchu eich gwaith ysgrifennu creadigol eich hun.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Wedi astudio unedau 1 a 2 ar UG, mae’r cwrs A2 yn cynnwys:


Uned 3: Shakespeare 

  • Arholiad Ysgrifenedig (2 awr, llyfr caeedig); 20% o’r cymhwyster
  • Adran A: Dyfyniad Shakespeare
  • Adran B: Traethawd Shakespeare

Uned 3: Testun Dibaratoad ac Astudiaeth Rhyddiaith

  • Arholiad ysgrifenedig (2 awr, llyfr agored); 20% o’r cymhwyster
  • Adran A: Testunau dibaratoad
  • Adran B: Astudiaeth rhyddiaith

Uned 5: Astudio Genre Beirniadaeth a Chreadigol

  • Asesiad nad yw’n arholiad:  2500-3000 gair; 20% o'r cymhwyster
  • Adran A: Astudiaeth genre
  • Adran B: Ysgrifennu creadigol cysylltiedig

Addysgu ac Asesu

  • Dau arholiad ysgrifenedig ac asesiad nad yw’n arholiad

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £0.00

Gofynion mynediad

Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.

Pwyntiau pwysig

  • Mae’r Coleg yn croesawu cyswllt gyda rhieni/gwarcheidwaid myfyrwyr sydd dan 18 oed
  • Mae cefnogaeth atodol ar gael i fyfyrwyr gydag anawsterau dysgu ac anableddau
  • Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn ymroddedig i gynhwysiant ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol y byddwn hyrwyddo cydraddoldeb cyfle ac yn trin pawb yn deg a gyda pharch
  • Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r cwrs yma heb rybudd o flaen llaw
  • Mae’r cyrsiau i gyd yn gywir ar yr adeg y’i huwchlwythir neu wrth fynd i’r wasg
  • Dim ond os oes digon o niferoedd y gellir cynnal cyrsiau
  • Sylwer, os byddwch chi’n dewis tri neu fwy dewis o gwrs, efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio am apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

31 Awst 2020

Dyddiad gorffen

11 Mehefin 2021

Amser o'r dydd

Diwrnod/ Amser

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F35
L3

Cymhwyster

English Literature/Language - A2

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Penderfynais astudio yn y Coleg gan fy mod eisiau teithio a bod yn fwy annibynnol - mae’r campws mor fodern ac yn edrych yn wych. Ar ôl gweld y llyfrgell roedd y penderfyniad wedi’i wneud. Heb air o gelwydd, y llyfrgell oedd y prif atyniad i mi, roedd yna cymaint o lyfrau yna, roeddwn wrth fy modd. 
Daeth rhywun i siarad â ni am Ymddiriedolaeth Sutton, sy’n rhoi blas i fyfyrwyr o fywyd mewn prifysgolion Americanaidd. Gwnes gais i fod yn rhan o’r rhaglen - roedd yn gystadleuol iawn ond cefais fy newis i gymryd rhan. Roeddem yn ymweld â thalaith wahanol bob dydd, a
buom i lawer o wahanol golegau gan gynnwys Princeton a Harvard. Treuliais wythnos hefyd ym Mhrifysgol Warwick ac wythnos ym Mhrifysgol Nottingham. Roedd yn brofiad mor dda - roeddwn wrth fy modd. Rydych yn cael llawer o gefnogaeth yn y Coleg, yn enwedig gan y tîm Gyrfaoedd a Syniadau.
Rwy’n meddwl bod yna lawer mwy o gyfleoedd yma gan ei fod yn goleg mor fawr gyda chymaint o adnoddau.

Charlotte Hall
Yn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg, Hanes, y Gyfraith, Seicoleg a Bagloriaeth Cymru

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cefnogaeth Dysgu

Mae ein timau cefnogi ymroddedig yn cynnig cefnogaeth gydag anghenion dysgu ychwanegol, cyllid myfyrwyr a mwy.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE