Llenyddiaeth Saesneg - UG
Ynglŷn â'r cwrs
A ydych chi’n mwynhau bod yn greadigol, meddwl drosoch chi'n hyn, trafod materion cyfoes sy'n gysylltiedig i lenyddiaeth, a datblygu eich syniadau yn ysgrifenedig a thrwy ddarllen? Os felly, yna mae’r cwrs hwn y dewis perffaith i chi! Wedi ei leoli un ein Campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, bydd y rhaglen hon yn archwilio nofelau, dramâu a barddoniaeth yn cynnwys testunau a chyd-destunau ac mae hefyd yn gyfle i ddatblygu darllen ac ysgrifennu creadigol. Mae’r rhaglen Llenyddiaeth Saesneg Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Mae’r cwrs yn cynnwys y ddau fodiwl canlynol:
Modiwl 1: Uned 1: Rhyddiaith a Drama (arholiad allanol, haf - 2 awr, llyfr caeedig)
Adran A: Rhyddiaith ffuglennol cyn 1900
Ar gyfer y modiwl hwn, byddwch yn astudio'r nofel Jane Eyre gan yr awdur enwog Charlotte Bronte. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddarllen y testun rhyddiaith hwn mewn amrywiaeth o ffyrdd a sut i ymateb yn feirniadol a chreadigol. Bydd myfyrwyr yn defnyddio cysyniadau beirniadaeth lenyddol gyda dealltwriaeth a dirnadaeth, ac yn dechrau nodi ac ystyried sut y mynegir agweddau a gwerthoedd mewn testunau. Bydd disgyblion hefyd yn dysgu ystyried dylanwadau diwylliannol a chyd-destunol ar ddarllenwyr ac awduron.
Adran B: Drama
Ar gyfer y rhan yma o'r cwrs, byddwch yn astudio A Streetcar Named Desire gan Tennessee Williams. Byddwch yn dysgu sut i ymateb yn feirniadol a chreadigol i’r testun drama hwn ac i ddefnyddio eich dealltwriaeth eich hun o wahanol ddehongliadau wrth ymateb i a gwerthuso’r testun. Bydd myfyrwyr hefyd yn meithrin dealltwriaeth ar sut i ysgrifennu mewn arddull academaidd priodol.
Modiwl 2: Uned 2: Barddoniaeth Wedi 1900 (arholiad allanol, haf - 2 awr, llyfr agored, copi glân)
Barddoniaeth
Ar gyfer y modiwl hwn, byddwch yn astudio barddoniaeth yr awdur enwog Seamus Heaney, gan drafod amrywiaeth o gerddi o’r casgliad o waith Field Work. I gyd-fynd â’r testun hwn, byddwch hefyd yn astudio barddoniaeth bardd o Gymru, Owen Sheers a’i gasgliad o gerddi yn Skirrid Hill.
Byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi sut y llunnir ystyron mewn testunau barddoniaeth a’r ffordd maw awduron yn addasu strwythur, ffurf ac iaith mewn barddoniaeth i greu effaith. Byddwch hefyd yn dysgu sut i nodi ac ystyried sut y mynegir agweddau a gwerthoedd mewn barddoniaeth, gan ddefnyddio eich dealltwriaeth o wahanol ddehongliadau.
Gofynion mynediad
Isafswm o 5 TGAU Graddau A* i C i gynnwys Saesneg a Mathemateg. Efallai y bydd pynciau unigol yn gofyn am raddau uwch. Efallai y caiff dysgwyr aeddfed heb y cymwysterau hyn eu derbyn ar ôl cyfweliad gyda thiwtor y pwnc.
Addysgu ac Asesu
- Dau asesiad gwaith cwrs a dau arholiad ysgrifenedig
Pwyntiau pwysig
- Mae’r Coleg yn croesawu cyswllt gyda rhieni/gwarcheidwaid myfyrwyr sydd dan 18 oed
- Mae cefnogaeth atodol ar gael i fyfyrwyr gydag anawsterau dysgu ac anableddau
- Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn ymroddedig i gynhwysiant ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol y byddwn hyrwyddo cydraddoldeb cyfle ac yn trin pawb yn deg a gyda pharch
- Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r cwrs yma heb rybudd o flaen llaw
- Mae’r cyrsiau i gyd yn gywir ar yr adeg y’i huwchlwythir neu wrth fynd i’r wasg
- Dim ond os oes digon o niferoedd y gellir cynnal cyrsiau
- Sylwer, os byddwch chi’n dewis tri neu fwy dewis o gwrs, efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio am apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Penderfynais astudio yn y Coleg gan fy mod eisiau teithio a bod yn fwy annibynnol - mae’r campws mor fodern ac yn edrych yn wych. Ar ôl gweld y llyfrgell roedd y penderfyniad wedi’i wneud. Heb air o gelwydd, y llyfrgell oedd y prif atyniad i mi, roedd yna cymaint o lyfrau yna, roeddwn wrth fy modd.
Daeth rhywun i siarad â ni am Ymddiriedolaeth Sutton, sy’n rhoi blas i fyfyrwyr o fywyd mewn prifysgolion Americanaidd. Gwnes gais i fod yn rhan o’r rhaglen - roedd yn gystadleuol iawn ond cefais fy newis i gymryd rhan. Roeddem yn ymweld â thalaith wahanol bob dydd, a
buom i lawer o wahanol golegau gan gynnwys Princeton a Harvard. Treuliais wythnos hefyd ym Mhrifysgol Warwick ac wythnos ym Mhrifysgol Nottingham. Roedd yn brofiad mor dda - roeddwn wrth fy modd. Rydych yn cael llawer o gefnogaeth yn y Coleg, yn enwedig gan y tîm Gyrfaoedd a Syniadau.
Rwy’n meddwl bod yna lawer mwy o gyfleoedd yma gan ei fod yn goleg mor fawr gyda chymaint o adnoddau.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu