A ydych chi’n mwynhau bod yn greadigol, meddwl drosoch chi'n hyn, trafod materion cyfoes sy'n gysylltiedig i lenyddiaeth, a datblygu eich syniadau yn ysgrifenedig a thrwy ddarllen? Os felly, yna mae’r cwrs hwn y dewis perffaith i chi! Wedi ei leoli un ein Campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, bydd y rhaglen hon yn archwilio nofelau, dramâu a barddoniaeth yn cynnwys testunau a chyd-destunau ac mae hefyd yn gyfle i ddatblygu darllen ac ysgrifennu creadigol. Mae’r cymhwyster yn cwmpasu Llenyddiaeth Saesneg UG ac A2, felly mae’n bosibl i fyfyrwyr gael cymhwyster Safon Uwch llawn mewn blwyddyn.
Uned 1: Rhyddiaith a Drama
Arholiad llyfr caeedig allanol 2 awr o hyd yn yr haf
Adran A: Ffuglen Ryddiaith cyn 1900 - 20% o'r cymhwyster llawn
Ar gyfer y modiwl hwn byddwch yn astudio'r nofel Jane Eyre gan yr awdur enwog Charlotte Brontë. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddarllen y testun rhyddiaith hwn mewn amrywiaeth o ffyrdd a sut i ymateb yn feirniadol a chreadigol. Bydd myfyrwyr yn defnyddio cysyniadau beirniadol llenyddol gyda dealltwriaeth a gwahaniaethu a byddant yn dechrau nodi ac ystyried sut mae agweddau a gwerthoedd yn cael eu mynegi mewn testunau. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu i ystyried dylanwadau diwylliannol a chyd-destunol ar ddarllenwyr ac awduron.
Adran B: Drama
Ar gyfer y rhan hwn o'r cwrs byddwch yn astudio A Streetcar Named Desire gan Tennessee Williams. Byddwch yn dysgu sut i ymateb yn feirniadol ac yn greadigol i'r testun drama hwn ac i dynnu ar eich dealltwriaeth o wahanol ddehongliadau wrth ymateb i'r testun hwn a'i werthuso. Bydd myfyrwyr hefyd yn ennill gwybodaeth am sut i ysgrifennu mewn arddull academaidd briodol.
Uned 2: Barddoniaeth ar ôl 1900 - 20% o'r cymhwyster llawn
Arholiad allanol 2 awr o hyd llyfr agored (copi glân) yn yr haf.
Ar gyfer y modiwl hwn, byddwch yn astudio barddoniaeth yr awdur enwog Seamus Heaney, gan gwmpasu amrywiaeth o gerddi o'r casgliad o waith o'r enw Field Work. Byddwch hefyd yn astudio barddoniaeth y bardd o Gymru, Owen Sheers a'i gasgliad o gerddi o'r gyfrol Skirrid Hill.
Byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi sut mae ystyron yn cael eu siapio mewn testunau barddoniaeth a'r ffyrdd y mae ysgrifenwyr yn addasu strwythur, ffurf ac iaith mewn barddoniaeth er mwyn cael effaith. Byddwch hefyd yn dysgu sut i nodi ac ystyried sut mae agweddau a gwerthoedd yn cael eu mynegi mewn barddoniaeth, gan dynnu ar eich dealltwriaeth o wahanol ddehongliadau.
A2
Mae Llenyddiaeth Saesneg A2 yn dilyn ymlaen o'r cwrs UG ac yn cynnwys y tri modiwl canlynol:
Uned 3 - Barddoniaeth cyn 1900 a barddoniaeth anghyfarwydd -20% o'r cymhwyster
Y testun barddoniaeth cyn 1900 sy'n cael ei astudio ar gyfer y cwrs hwn yw The Merchant’s Prologue and Tale gan Chaucer. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ymateb i gerddi neu ddarnau nad ydynt wedi'u gosod o'r blaen i'w hastudio fel rhan o'r cwrs mewn ffordd bersonol ac ymgysylltiedig. Bydd yna arholiad ysgrifenedig 2 awr o hyd.
Uned 4 – Shakespeare – 20% o'r cymhwyster
Y testun gosod ar gyfer yr uned hon yw King Lear gan Shakespeare. Bydd myfyrwyr yn ateb un cwestiwn yn seiliedig ar ddetholiad o'r ddrama ac un cwestiwn o ddewis o ddau ar yr un testun. Bydd yna arholiad ysgrifenedig 2 awr o hyd.
Uned 5 - Astudiaeth Rhyddiaith - 20% o'r cymhwyster
Asesiad heb arholiad: Aseiniad 2,500-3,500 gair
Mae'r pwyslais ar yr uned gwaith cwrs hon ar ddarllen ac ymchwil annibynnol. Dylai myfyrwyr gyflwyno aseiniad 2500-3500 gair yn seiliedig ar ddarllen dau destun rhyddiaith gan wahanol awduron, un wedi'i gyhoeddi cyn 2000 a'r llall wedi'i gyhoeddi ar ôl 2000. Mae'r testunau posib yn cynnwys: Atonement gan Ian McEwan a Wuthering Heights gan Emily Bronte.
Ffi Arholiad : £90.00
Ffi Cwrs: £583.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00
Isafswm o 5 TGAU Graddau A* i C gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg. Cyfweliad. Efallai y bydd pynciau unigol yn gofyn am raddau uwch. Efallai y caiff dysgwyr aeddfed heb y cymwysterau hyn eu derbyn ar ôl cyfweliad gyda thiwtor y pwnc.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
“Rydw i’n bendant yn credu bod y Coleg wedi fy helpu i gyflawni fy nodau. Mae wedi bod yn amgylchedd dysgu cefnogol a gwych. Rydw i wedi mwynhau astudio fy holl gyrsiau yn fawr. Rydw i'n credu ei fod yn amgylchedd braf iawn i astudio ynddo.”
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol: