Iaith Saesneg - TGAU

L2 Lefel 2
Rhan Amser
3 Medi 2024 — 28 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynglŷn â'r cwrs

Byddwch yn defnyddio a gwella pedair sgil iaith Darllen, Ysgrifennu, Siarad a Gwrando. Byddwch yn darllen, trafod ac ysgrifennu am nifer o wahanol fathau o ysgrifennu: bydd rhai yn ffuglen (straeon a dyfyniadau o nofelau), rhai yn ffeithiol (erthyglau, pamffledi, hysbysebion a dyfyniadau o fywgraffiadau ac ysgrifennu ffeithiol), a byddwch yn ymarfer gwahanol fathau o ysgrifennu eich hun.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Gwaith Llafar: Bydd eich tiwtor yn gweithio gyda chi i ddatblygu eich sgiliau siarad a gwrando trwy gydol y cwrs, mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol. Bydd gofyn i chi wneud cyflwyniad neu sgwrs ac i gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp.

Darllen ac ysgrifennu: Yn ystod y cwrs, bydd disgwyl i chi ddarllen ac ysgrifennu ar ben eich hun i baratoi ar gyfer gwaith yn eich dosbarth. Byddwch yn derbyn eich gallu i weithio ar gyfer amrywiaeth o ddibenion a chynulleidfaoedd.

Beth am Ramadeg, Sillafu ac Atalnodi? Mae hanner y marciau a ddyrannir ar gyfer strwythur brawddegau, sillafu, gramadeg ac atalnodi, felly byddwch yn gweithio tuag at wella’r rhain. Bydd eich tiwtor yn eich helpu er mwyn i chi allu defnyddio’r gefnogaeth sydd ar gael yn y Canolfannau Dysgu a Sgiliau galw i mewn.

Fe osodir gwaith cartref yn rheolaidd.

Asesir trwy gyfuniad o asesiadau ac arholiadau rheoledig. Yn ystod y cwrs byddwch yn adeiladu ffeil o ddau ddarn o waith cwrs ysgrifenedig sylweddol ac o leiaf ddau asesiad llafar. Mae pob un o’r elfennau hyn yn werth 20% o’r marc terfynol, sy'n rhoi cyfanswm o 40%. Mae’r ddau arholiad ar ddiwedd y cwrs yn werth 30% yr un.

Amseroedd cwrs

Campws Canol y Dinas:

  • 17:45-20:45 Dydd Mawrth
  • 17:45-20:45 Dydd Iau
  • 17:45-20:45 Dydd Llun

Campws y Barri:

  • 17:45-20:45 Dydd Mawrth Colcot

Ar-lein:

  • 17:45-20:45 Mercher

Gofynion mynediad

Tystiolaeth o TGAU Saesneg Gradd D neu Sgiliau Hanfodol - Cyfathrebu Lefel 2. Methu cofrestru os yn ychwanegol at gwrs llawn amser.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster