Iaith Saesneg - A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 7 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Saesneg Iaith A2 yn dilyn ymlaen o Saesneg Iaith UG a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Ar A2, bydd disgwyl i fyfyrwyr ddangos gwell dealltwriaeth a gwybodaeth o ffonoleg, orgraff, geirdarddiad, geirfa, semanteg, morffoleg, gramadeg a mynegiant.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae tair uned ar gyfer A2 Saesneg Iaith. Mae dwy o'r unedau yn arholiadau ysgrifenedig ac mae un uned yn ymchwiliad annibynnol. Rhaid cwblhau pob uned.

Bydd ymgeiswyr yn meithrin gwerthfawrogiad o iaith gydag amser, tra’n sicrhau dealltwriaeth o gaffael iaith mewn plant a symbolau ffonemig.

Uned 3: Iaith dros Amser (arholiad ysgrifenedig) 1awr 30m (20%)

Mae’r uned hon yn seiliedig ar astudiaeth o destunau ysgrifenedig dibaratoad o wahanol gyfnodau, wedi eu cysylltu trwy genre. Fe fydd yna dri thestun, dim un yn gynharach na 1500, a bydd disgwyl i fyfyrwyr ateb dau gwestiwn:

Cwestiwn 1: Bydd ymgeiswyr yn ateb nifer o gwestiynau byr yn seiliedig ar nodweddion iaith hynafol o’r testunau.

Cwestiwn 2: Bydd ymgeiswyr yn ysgrifennu ymateb estynedig (traethawd) ble byddant yn archwilio, dadansoddi a gwerthuso’r ffactorau cyd-destunol trwy ddarllen agos o'r testunau gan ddisgrifio nodweddion allweddol newid iaith yn defnyddio terminoleg gysylltiedig yn gywir a gwneud cysylltiadau ar draws y testunau yng ngoleuni ffocws penodol. Bydd angen i ymatebion arddangos defnydd yr ymgeisydd o fynegiant ysgrifenedig cydlynol a’i ddefnydd o ddyfyniad addas i gefnogi’r pwyntiau mynegiannol a wna yn llawn.

Uned 4: Dadansoddi iaith lafar (arholiad ysgrifenedig) 2awr (20%)

Mae dwy adran sy'n cario’r un pwysau, gydag un cwestiwn ym mhob adran. Mae'r ddwy adran yn ofynnol.

Adran A: Dadansoddi iaith lafar

Bydd ymgeiswyr yn defnyddio eu gwybodaeth o’r modd iaith lafar mewn amrywiaeth o gyd-destunau, sy'n cwmpasu ystod o sefyllfaoedd er mwyn darllen trawsgrifiadau iaith lafar yn ofalus i gynhyrchu ymateb dadansoddol estynedig ble maent yn archwilio defnydd siaradwyr o iaith a’i effeithiau, o ystyried y cyd-destun a genre. Bydd angen i ymgeiswyr ddefnyddio dyfyniadau addas, cymhwyso gwybodaeth ieithyddol a damcaniaethol priodol ac angen arddangos mynegiant ysgrifenedig cydlynol.

Adran B: Ail gastio creadigol

Bydd y cwestiwn hwn yn rhoi cyfle i ymgeiswyr arddangos eu creadigrwydd wrth gyflwyno deunydd ar ffurf wahanol ac ar gyfer cynulleidfa a phwrpas gwahanol. Bydd ymgeiswyr yn cynhyrchu darn gwreiddiol o waith ysgrifennu, sy'n gysylltiedig i un neu’r ddau o'r trawsgrifiadau yn Adran A.

Uned 5: Iaith a hunaniaeth (asesiad nad yw'n arholiad 2500-3500 o eiriau: 20%)

Mae’r uned hon yn rhoi cyfle i ddysgwyr gyflawni ymchwiliad iaith yn annibynnol trwy ymchwil, casglu data a dehongli. Mae gan ddysgwyr ddewis i bedwar maes ble gallant ddewis pwnc:

  1. Iaith a hunan gynrychiolaeth
  2. Iaith a rhywedd
  3. Iaith a diwylliant
  4. Iaith ac amrywiaeth

Sylwer: Dylai dysgwyr ddewis deunydd sydd o ddiddordeb iddynt yn ddiwylliannol, yn bersonol ac yn academaidd.

Gofynion mynediad

Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.

Addysgu ac Asesu

  • Un arholiad ysgrifenedig a gwaith cwrs

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

7 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F03
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Lefel 3 mewn Saesneg Iaith

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?


“Rwy'n edrych ymlaen at y cam nesaf a gwneud cais i astudio yn y brifysgol."

Michael Sung
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Ysgrifennu Creadigol
  • Iaith Saesneg
  • Llenyddiaeth Saesneg
  • Hanes
  • Llywodraeth a Gwleidyddiaeth
  • Ieithoedd
  • Seicoleg 

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE