Rhan66 B1.1 Trwydded Dysgu o Bell (Y Lluoedd Arfog)

L4 Lefel 4
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein

Ynglŷn â'r cwrs

Mae'r cwrs hwn ar gyfer aelodau o'r Lluoedd Arfog a'r rhai hynny sy'n gweithio fel technegwyr yn y diwydiant cynnal a chadw awyrennau, sy'n dymuno dod yn ddeiliaid trwydded EASA Part-66. Mae'n ymdrin â'r holl fodiwlau EASA Part66 academaidd sy'n ofynnol ar gyfer y Drwydded B1.1 mewn Cynnal a Chadw Awyrennau.

Nid oes gan y cwrs hwn ddyddiad cychwyn penodol, ac fe allwch gofrestru ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Mae croeso i chi gofrestru nawr a bydd aelod o’r tîm Peirianneg Awyrennau yn cysylltu â chi.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae’r cwrs 3 blynedd yma yn darparu holl fodiwlau astudio sy’n ofynnol ar gyfer Technegwyr sy’n dymuno bod yn ddeiliad trwydded Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop Rhan66 B1.1. Dyma gymhwyster angenrheidiol ar gyfer unrhyw Dechnegydd Awyren sy’n dymuno cael rôl goruchwylio neu arwyddo tystysgrif rhyddhau i wasanaethu awyren, yn dilyn trefniadaeth cynhaliaeth.

Noder os gwelwch yn dda, er mwyn bod yn ddeiliad trwydded Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop Rhan 66 B, bydd angen i fyfyrwyr fod â lleiafrif o 5 mlynedd o brofiad o fewn sefydliad Rhan145. Gall hyn fod yn ychwanegiad gan y Gwasanaeth Milwrol ac o dan ddoethineb Awdurdod Hedfan.

Y 13 modiwl i’w hastudio ar gyfer y cwrs hwn yw:

  • M1 - Mathemateg

  • M2 - Ffiseg

  • M3 - Hanfodion Trydanol

  • M4 - Hanfodion Electronig

  • M5 – Technegau Digidol

  • M6 - Deunyddiau a Nwyddau Metel

  • M7 - Ymarferion Cynhaliaeth

  • M8 – Erodynameg Sylfaenol

  • M9 – Ffactorau Dynol

  • M10 - Deddfwriaeth Hedfannaeth

  • M11a - Erodynameg, Strwythur a Systemau Awyren

  • M15 – Tyrbinau Nwy

  • M17 – Adweithyddion gyrru

Dyma gwrs dysgu o bell ac mae’n eich galluogi i astudio o amgylch eich ymrwymiadau gwaith a theulu. Cewch ddeunydd astudio o safon fyd-eang ar ffurf Copi Caled, E-lyfrau a chefnogaeth ar ffurf mynediad i wefan. Mae arbenigwyr ar y pwnc ar gael i’w ffonio neu gallwch anfon neges e-bost atynt.

I gwblhau pob modiwl, bydd angen i fyfyrwyr basio arholiad amlddewis ar ddiwedd pob modiwl. Mae Modiwlau 7,9 a 10 yn cynnwys arholiadau ysgrifenedig yn ogystal. Mae’r arholiadau yn cael eu cynnal yn ein Canolfan Hyfforddi Rhan147 sydd drws nesaf i faes awyr Caerdydd, serch hyn, gellir sefyll arholiad mewn unrhyw ganolfan arholiad Rhan147 os yw hynny’n gyfleus.

Mae un cynnig ar gyfer pob arholiad yn gynwysedig yng nghost y cwrs.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Cyfraniad ELCAS: £1,799.20

Ffi Cwrs: £449.80

Gofynion mynediad

Mae angen o leiaf cymhwyster TGAU Gradd C neu gymhwyster cyfatebol mewn Mathemateg a phwnc Gwyddoniaeth. Bydd profiad o gynnal a chadw ymarferol hefyd yn fuddiol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSB114P01
L4

Cymhwyster

EASA Part66 B1.1 Licence Distance Learning (Armed Forces) (Immediate start available)

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Lleoliadau

Ar-lein
Ar-lein