Teilsio Waliau a Llawr

cwrs yn llawn
L1 Lefel 1
Llawn Amser
2 Medi 2019 — 19 Mehefin 2020
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer ymgeiswyr sy'n dymuno ennill dealltwriaeth a phrofiad ymarferol o deilsio waliau a lloriau yn y diwydiant adeiladu. Mae'r cymhwyster yn ymdrin ag ystod o sgiliau llaw a thasgau ymarferol o ran torri a gosod teils waliau a lloriau. Byddwch yn dysgu yn yr ystafell ddosbarth ac yn y gweithdy, gan ddefnyddio offer a deunyddiau addas. Asesir bob uned trwy aseiniadau ymarferol ac arholiadau damcaniaethol.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Byddwch yn astudio nifer o unedau gan gynnwys:

  • Cyflwyniad i iechyd a diogelwch yn y diwydiant adeiladu

  • Cyflwyniad i'r diwydiant adeiladu

  • Cymysgu deunyddiau

  • Amlinellu'r sylfaen

  • Paratoi cefndiroedd

  • Teilsio waliau a lloriau

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £30.00

Gofynion mynediad

Byddai ymgeiswyr yn elwa o gyflawni 3 TGAU Gradd D-F. Fel arall, bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn seiliedig ar gyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, a'u hawydd a'u hymrwymiad i gwblhau'r cwrs y maent yn dymuno ei astudio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr dan 18 oed
  • Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau
  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn ymrwymedig i gynhwysedd ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hyrwyddo cyfle cyfartal ac i drin pawb yn deg a chyda pharch
  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
  • Mae'r holl gyrsiau'n gywir ar adeg eu lanlwytho neu eu hargraffu
  • Ni allwn redeg cyrsiau heb nifer digonol o fyfyrwyr
  • Sylwer: os dewiswch dri neu fwy o ddewisiadau cwrs, yna fe allech chi gael eich cyfeirio at apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2019

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2020

Amser o'r dydd

Diwrnod/ Amser

Llawn Amser

15 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

TICC1F01
L1

Cymhwyster

City & Guilds Level 1 Diploma In Wall and Floor Tiling (QCF)

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Rwyf wedi mwynhau bod o gwmpas Campws Canol y Ddinas, mae'n amgylchedd braf ac mae pawb yn cyd-dynnu'n dda. Uchafbwynt fy amser yn y coleg oedd gwneud ffrindiau newydd a'r amgylchedd gwahanol i'r ysgol. Gallwch ennill sgiliau newydd a gwneud pethau nad oeddech yn meddwl y gallech eu gwneud o'r blaen.

David Warner
Paentio ac Addurno Lefel 2

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cefnogaeth Dysgu

Mae ein timau cefnogi ymroddedig yn cynnig cefnogaeth gydag anghenion dysgu ychwanegol, cyllid myfyrwyr a mwy.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.