Drwy astudio'r Ddiploma mewn Cwnsela Therapiwtig yn CAVC byddwch yn cael cyfle i archwilio a deall eich lle yn y byd ac ennill y sgiliau a'r wybodaeth i gefnogi archwiliad eraill.
Mae'r agweddau a dulliau addysgu yn adlewyrchu'r cysyniadau hyn, ac fe roddir amser yn y dosbarth ac ysgolion dydd i archwilio athroniaeth ac ymarfer y sgiliau sy'n berthnasol â'r dull hwn. Tynnir sylw at y cwestiynau canlynol:
Mae'r dull difrodol dyneiddiol yn dadlau fod pobl yn datblygu yn sgil amgylchiadau cymhwysol o werth ac yn datblygu credoau gwaddod o ganlyniad i hyn
Mae problemau seicolegol yn datblygu yn sgil ymateb i'r pryder ac ofn o lywio profiadau bywyd.
Mae problemau seicolegol yn parhau oherwydd nad yw pobl yn sylweddoli ar eu rhyddid i wneud dewisiadau.
Gall newid therapiwtig ddod i'r amlwg wrth i amgylchiadau meithringar gael eu rhoi mewn lle gan y therapydd, ac wrth i gleientiaid gael eu dal a'u herio'n ddigonol i archwilio ffyrdd eraill o fyw yn eu byd.
Mae'r dull difrodol dyneiddiol yn ceisio datblygu perthynas therapiwtig a fydd yn darparu'r amgylchiadau ar gyfer tyfu, ac er nad yw'n hyrwyddo'r defnydd o dechnegau, defnyddir ymyriadau creadigol i archwilio'r ymhlyg.
Dros y ddwy flynedd bydd eich astudiaeth yn cynnwys y 7 deilliant dysgu canlynol:
Uned 1 - Gweithio'n foesol a diogel fel cwnselydd
Uned 2 - Gweithio o fewn perthynas cwnsela
Uned 3 - Gweithio gydag amrywiaeth o gleientiaid
Uned 4 - Gweithio gyda dull asiantaeth sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
Uned 5 - Gweithio gyda hunan-ymwybyddiaeth yn y broses cwnsela
Uned 6 - Gweithio o fewn fframwaith o sgiliau a theori cwnsela
Uned 7 - Gweithio'n hunan-fyfyriol fel cwnselydd asiantaeth.
“Mae’r dull dirfodol yn bennaf yn athronyddol. Mae’n ymwneud â deall safle pobl yn y byd ynghyd ag eglurhad o’r hyn mae’n ei olygu iddynt fod yn fyw. Mae hefyd wedi ymrwymo i archwilio’r cwestiynau hyn mewn modd derbyngar, yn hytrach na modd pendant. Y nod yw chwilio am y gwir gyda meddwl agored a dull rhyfeddu yn hytrach na cheisio dynodi cleient i fframweithiau cyn-sefydledig o ddehongli.”(Emmy Van Deurzen).
Nid yw’r dull dirfodol dyneiddiol yn labelu nac yn categoreiddio problemau iechyd meddwl cyffredin, ond yn hytrach yn helpu cleientiaid i reoli’r ofn a’r gorbryder sy’n datblygu o lywio tueddiadau a realiti dirfodol bodolaeth. Mae tîm y cwrs yn credu bod cymdeithas wedi cyrraedd pwynt lle mae heriau bodolaeth dyn yn aml yn gysylltiedig â phatholeg ac mae hyn yn achosi cymdeithas sy’n gweld ei hun yn “sâl” yn hytrach nag yn ddynol. Mae’r dull dirfodol dyneiddiol i therapi felly yn ceisio meithrin gwytnwch mewn cleientiaid, ac felly yn eu grymuso nhw i wneud penderfyniadau a fydd yn eu helpu i fyw bodolaeth fwy dilys a boddhaus.
Mae addysgu ar y cwrs yn adlewyrchu'r egwyddorion uchod ac felly mae tiwtoriaid yn ceisio creu amgylchedd a fydd yn hwyluso twf a datblygiad myfyrwyr fel bodau dynol yn ogystal ag ymarferwyr cymwys. Mae astudio cwrs difrodol dyneiddiol yn ymwneud â'r person rydych chi ar ddiwedd y cwrs, ag y mae'n ymwneud â'r sgiliau a'r wybodaeth rydych chi'n eu hennill.
Mewn ymateb i’r pandemig mae’r proffesiwn cwnsela wedi cynnig mwy o therapi ar-lein. Er ein bod yn obeithiol y gall therapyddion ddychwelyd i weithio gyda chleientiaid wyneb yn wyneb, rydym hefyd yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd wedi cael eu creu er mwyn gwella mynediad at gwnsela yn ystod y cyfnod hwn, ac mae’r Diploma mewn Cwnsela Therapiwtig wedi dewis adlewyrchu’r newidiadau hyn yn ei gwricwlwm.
O ganlyniad mae’r cwrs bellach yn cynnwys Therapi Ar-lein ac ar y ffôn, Cymwyseddau BACP OPT fel rhan o’i raglen dwy flynedd https://www.bacp.co.uk/events-and-resources/ethics-and-standards/competences-and-curricula/online-and-phone-therapy/ Yr elfen ychwanegol i’r cwrs fydd yr angen i ychydig o’r gwersi gael eu cyflwyno ar-lein, ond bydd hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr weithio wyneb yn wyneb gyda chleientiaid yn eu lleoliadau yn ogystal â gweithio o bell. Gyda hyn mewn golwg, mae angen i gleientiaid fod yn ymwybodol o’r gofynion ychwanegol canlynol er mwyn mynychu’r cwrs. Yn bennaf, yr angen am gysylltiad da i’r we gyda thechnoleg/dyfeisiadau addas a’r gallu technegol i weithio ar-lein. Yn bwysicach na dim, mae angen lle preifat i fynychu unrhyw wersi ar-lein, ac i ddarparu lleoliad cyfrinachol ar gyfer gwaith cleient a goruchwyliaeth glinigol, ac o bosib eu therapi personol ar-lein eu hunain.
Byddwch yn astudio yn y coleg ar nos Fawrth o 5-9pm am 34 wythnos; yn ogystal, byddwch angen mynd i 11 ysgol diwrnod bob blwyddyn academaidd. Cynhelir y rhain ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn bob hanner tymor, dosbarthir dyddiadau wedi i chi gael eich derbyn ar y cwrs yn llwyddiannus er mwyn i chi gynllunio eich ymrwymiadau.
Fodd bynnag, dylech hefyd neilltuo amser i fynd ar leoliadau, i gael goruchwyliaeth reolaidd, therapi personol a lleiafswm o 4 awr i astudio gartref bob wythnos.
Bydd myfyrwyr sy’n astudio’r Diploma mewn Cwnsela Therapiwtig yn cael eu hyfforddi mewn dosbarth o 18 myfyriwr. Mae dwy ddarlithydd craidd ar gyfer y diploma, Jane Wyatt a Vicky Ashman a dwy ychwanegol, Rebecca Morgan ac Ali McSorley sy’n ymuno â’r grŵp ar achlysuron fel yr ysgolion dydd penwythnos, pan fydd cymarebau staffio yn cael eu cynyddu i sicrhau cefnogaeth ac asesiad digonol.
Mae’r proffiliau staff canlynol yn nodi ehangder y profiad y bydd y tîm ymroddedig hwn yn ei gynnig i’ch dysgu.
Jane Wyatt BACP Achrededig - tiwtor Blwyddyn Gyntaf
Mae Jane yn gynghorydd a hyfforddwr profiadol, ar ôl arwain Diploma Achrededig BACP mewn Cwnsela Therapiwtig am dros 20 mlynedd yng Ngoleg Caerdydd a’r Fro. Jane yw tiwtor craidd blwyddyn gyntaf y diploma a chydlynydd y cyrsiau cwnsela yn y coleg.
Y tu allan i’w rôl ddarlithio, mae Jane yn ymarfer fel cwnsleydd dirfodol dyneiddiol gyda phobl ifanc yn UWC Atlantic, coleg chweched dosbarth rhyngwladol, mae ganddi bractis bach preifat mewn goruchwylio mewn hosbis lleol.
Rebecca Morgan MBACP
Mae Rebecca Morgan yn gymwysedig mewn cwnsela dirfodol dyneiddiol; mae’n addysgu’r cyrsiau Lefel 3 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn ogystal â’r Diploma mewn Cwnsela Therapiwtig. Yn ogystal â’i rôl ddarlithio, mae gan Rebecca ei phractis preifat ei hun ac yn Gydlynydd Cwnsela yn MIND Port Talbot a Chastell-nedd.
Ali McSorley BACP Achrededig
Mae Ali McSorley yn gymwysedig mewn cwnsela dirfodol dyneiddiol, mae hi’n addysgu ar ystod o gyrsiau cwnsela ac iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro gan gynnwys y Diploma Therapiwtig mewn Cwnesla. Yn ogystal â’i rôl ddarlithio mae gan Ali ei phractis preifat ei hun, ac mae’n gweithio yn y sector gwirfoddol gydag atgyfeiriadau gan Atal y Fro, sefydliad sy’n cefnogi dioddefwyr Trais yn y Cartref.
Mae'r asesiad ar sail tystiolaeth sy'n adlewyrchu arfer cwnsela a'r proffesiwn cwnsela.
Aseiniadau Blwyddyn Un | Aseiniadau Blwyddyn Dau |
Cyfnodolion myfyrio misol Asesiad sgiliau wedi tapio Ymarfer goruchwylio Grŵp Dosbarth Astudiaeth Achos | Cyfnodolion myfyrio misol Arholiad ffug Cyflwyniad a thraethawd damcaniaethol Astudiaeth Achos |
Adroddiad y goruchwyliwr | Adroddiad y goruchwyliwr Adroddiad Asiantaeth Cwnsela Tystiolaeth o leiafswm o 15 awr o therapi personol |
Cynhelir rhai asesiadau o bell. Cynhelir prawf medrusrwydd ar-lein ar ddiwedd y tymor cyntaf i asesu parodrwydd myfyrwyr i ymarfer ar leoliad.
Bydd gofyn i chi sicrhau lleoliad sy'n cael ei gymeradwyo gan y coleg, ac ymgymryd â 100 awr gyda chleientiaid dan oruchwyliaeth (ac eithrio'r rhai sydd ddim yn bresennol). Eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod goruchwyliaeth yn cael ei ddarparu i'r safon sy'n ofynnol o gwrs BACP achrededig, sy'n lleiafswm o 1.5 awr y mis, fydd yn eich galluogi chi i gyflwyno cleientiaid mewn sesiynau goruchwylio bob dwy wythnos. Mae'r rhan fwyaf o asiantaethau yn darparu hyn fel rhan o'u cyswllt, ond mewn rhai achosion byddwch angen prynu eich goruchwyliaeth eich hun neu "ychwanegu" oriau goruchwylio i ateb gofynion y cwrs. Mae hyn yn ychwanegol at ffioedd eich cwrs.
Noder, nid oes caniatâd i fyfyrwyr gwnsela myfyrwyr eraill o flwyddyn un neu ddau fel rhan o'u hymarfer wrth hyfforddi.
Bydd myfyrwyr yn cael eu hyfforddi a’u hasesu i weithio gyda chleientiaid wyneb yn wyneb ac o bell ar leoliad.
Mae'r Diploma Achrededig BACP mewn Cwnsela Therapiwtig yn caniatáu i chi weithio gydag oedolion mewn asiantaeth cwnsela; oblegid hyn, dylai eich oriau fel cwnselydd fod gyda chleientiaid sydd dros 18 oed. Fodd bynnag, mae'r cwrs a'r corff arholi, CPCAB yn cydnabod fod gofyn a diddordeb cynyddol mewn cwnsela mewn ysgolion yng Nghymru, felly mae modd i fyfyrwyr gyfrif:
Ar hyn o bryd ni chaniateir i unrhyw fyfyrwyr weithio ar-lein gyda chleientiaid o dan 16 oed.
Fel Cwrs Achrededig BACP, gallwch ddisgwyl safon uchel o addysgu a fydd yn eich cefnogi ac yn eich herio fel hyfforddai yn y dosbarth ac yn eich lleoliad. Mae gan CAVC gysylltiadau gwych gydag asiantaethau cwnsela lleol ac maent yn eich galluogi i ymarfer yn ddiogel a moesol.
Bydd Fframwaith Moesegol BACP ar gyfer y Proffesiynau Cwnsela (Gorffennaf 2018) yn cael eu hymgorffori yn eich addysgu a phrofiad ymarfer, a chaiff ei fodelu gan diwtoriaid galluog, profiadol ac angerddol yn y dosbarth, pob tiwtor craidd yn therapyddion ymarferol achrededig BACP. Cynigir cymorth ychwanegol yn y LRC ac i'r holl diwtoriaid sy'n gweithredu polisi drws/e-bost agored rhwng dosbarthiadau.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr a all arddangos y nodweddion canlynol a fydd yn cael eu hasesu drwy gyfweliad a chyflwyniad yn ogystal â geirda academaidd gan eich tiwtor blaenorol.
Mae'r cwrs yn gofyn i chi, fel rhan o'ch datblygiad personol, ymgymryd â 15 awr o therapi personol dros ddwy flynedd. Mae hon yn gost ychwanegol i gost y cwrs.
Ffi Arholiad : £393.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Ffi Cwrs: £1,250.00
Mae'r gofynion mynediad safonol ar gyfer y cwrs hwn yn cynnwys: Cyflawni 180 o Oriau Dysgu dan Arweiniad, yn cynnwys hyfforddiant y Corff Dyfarnu Canolog Cwnsela a Seicotherapi (CPCAB) Lefel 2 a 3 mewn Cwnsela neu gyfwerth, yn ogystal â chyfweliad boddhaol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau'r cwrs yma, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen i naill ai:
Sgiliau a Theori Bydd llawer o fyfyrwyr yn dilyn cyfleoedd cyflogaeth amrywiol yn y diwydiant hefyd.