Cerddoriaeth
Ynglŷn â'r cwrs
Ydych chi'n gerddor ifanc brwd sy'n awyddus i ddilyn gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth? Os felly, mae ein Diploma Lefel 2 ar gyfer Ymarferwyr Cerddoriaeth yn fan cychwyn gwych. Ar gyfer cerddorion a chynhyrchwyr sydd eisiau dod i ddeall y sector yn well, bydd y cwrs hwn yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sy’n ofynnol er mwyn llwyddo yn y diwydiant. Yn cael ei dysgu ar ein campws newydd sbon ni yng nghanol y ddinas, mae’r rhaglen hon yn cynnig blas i’r dysgwyr ar Berfformio Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth, gan roi sylw i unedau amrywiol yn ein cyfleusterau modern. Gall y myfyrwyr ddisgwyl dysgu gwybodaeth a datblygu sgiliau mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys y canlynol:
- Recordio mewn Stiwdio
- Cynllunio a Hyrwyddo Digwyddiadau
- Perfformiadau Byw
- Cyfansoddi Cerddoriaeth
Er bod y cwrs yn un llawn amser, dim ond am 2 ddiwrnod yr wythnos mae disgwyl i’r myfyrwyr fod i mewn yn y coleg. Ar hyn o bryd mae’r amserlen wedi’i rhannu dros ddyddiau Mawrth ac Iau, mae’r rhaglen yn cael ei gweld yn aml fel gofyniad ar gyfer y cyrsiau BTEC Lefel 3 sydd ar gael ar hyn o bryd ac mae’n rhoi’r wybodaeth mae’r myfyrwyr ei hangen er mwyn gwneud penderfyniad doeth am eu cam nesaf. Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio un o’r cyrsiau canlynol:
- BTEC Lefel 3 Cerddoriaeth Boblogaidd
- BTEC Lefel 3 Technoleg Cerddoriaeth
Beth fyddwch yn ei astudio?
Astudio Offerynnau a Pherfformiadau Cerddorol Byw
Mae’r unedau hyn yn canolbwyntio ar berfformiadau byw a datblygiad offerynnol – bydd y myfyrwyr yn gweithio tuag at nifer o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn academaidd. Gallai hyn gynnwys perfformiadau unigol a/neu berfformio fel rhan o fand/grŵp. Bydd y dysgwyr yn cael cyfle hefyd i’w datblygu eu hunain ar eu hofferyn(nau) unigol.
Defnyddio Allweddell gyda DAW a Chyfansoddi Cerddoriaeth
Mae’r unedau hyn yn canolbwyntio ar fyfyrwyr yn datblygu eu sgiliau gydag Offerynnau Rhithiol. Gan ddefnyddio Gorsafoedd Gwaith Sain Digidol unigol fel Cubase, bydd y disgyblion yn dysgu’r sgiliau a’r technegau gofynnol i greu a chyfansoddi eu cerddoriaeth eu hunain.
Recordio Digidol, Cynhyrchu a Recordio Sain Byw
Mae’r unedau hyn mewn Stiwdio Recordio. Bydd y myfyrwyr yn dysgu’r technegau cysylltiedig â recordio’n broffesiynol eu hunain mewn stiwdio a recordiadau byw. Gan ddefnyddio ein cyfleusterau recordio cwbl fodern, byddant yn astudio nifer o unedau ymarferol, yn dysgu am ddewis microffonau, technegau ac offer recordio pwysig arall.
Trefnu, marchnata a hybu Digwyddiad Cerddoriaeth
Mae’n hanfodol bod myfyrwyr yn dysgu gwybodaeth am sut i drefnu a hybu Digwyddiad Cerddorol. Byddant yn trefnu eu digwyddiadau eu hunain drwy gydol y flwyddyn gan edrych ar dechnegau marchnata a hyrwyddo a’r holl elfennau cynllunio sy’n gysylltiedig â chynnal digwyddiad llwyddiannus.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £30.00
Ffioedd Stiwdio: £65.00
Gofynion mynediad
4 TGAU Graddau A* i D gan gynnwys Saesneg Iaith neu Fathemateg neu gymhwyster Lefel 1 yn y maes hwn. Rhaid i chi ddod i gyfweliad. Rhaid i chi ailsefyll TGAU Saesneg Iaith neu Fathemateg os Gradd D neu is. Hefyd bydd disgwyl i fyfyrwyr Cerddoriaeth wneud clyweliad.
Addysgu ac Asesu
- Asesiadau parhaus gan gynnwys asesiadau ymarferol ac ysgrifenedig
Pwyntiau pwysig
- Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr o dan 18 oed
- Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu ac anableddau
- Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hyrwyddo cyfle cyfartal ac i drin pawb yn deg a chyda pharch
- Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
- Mae'r holl gyrsiau'n gywir adeg eu llwytho i fyny neu eu hargraffu
- Bydd cyrsiau ond ar gael os oes nifer digonol o fyfyrwyr yn cofrestru
- Sylwer, os ydych yn dewis tri neu fwy o ddewisiadau cwrs, efallai bydd rhaid i chi gael apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Rwyf wedi mynd ymlaen i’r Radd Sylfaen Technoleg Cerdd ac mae hynny wedi bod yn gam ymlaen mawr i mi. Rwyf wir eisiau bod yn gynhyrchydd ond mae’r cwrs hwn wedi agor opsiynau eraill mewn cerddoriaeth i mi – gydag un o’r rheiny yn rheoli digwyddiadau sef beth rwy’n gwyro fwyfwy tuag ato. Byddwn i’n dweud wrth unrhyw un sy’n meddwl bod yn rhan o’r rhaglen gerddoriaeth i fynd amdani, mae cymaint mwy iddi nag y meddyliwch ac rwy’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd. Nid oes rhaid i chi fod yn berfformiwr i’w fwynhau.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu