Peirianneg Drydanol/Electronig (Canolradd)

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Bydd y Diploma EAL hwn mewn Peirianneg yn addas i unrhyw un sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn Peirianneg neu faes cysylltiedig. Mae'n eich caniatáu i ddysgu'r hanfodion a rhoi cynnig ar grefftau a gyrfaoedd gwahanol, i'ch helpu i ddarganfod yr hyn yr ydych chi'n ei fwynhau a'r hyn sy'n addas i chi. Cewch gyfle i brofi peirianneg fecanyddol, drydanol, electronig a chyffredinol. Ar y cwrs hwn mae yna ystod o sesiynau theori ac ymarferol. Byddwch yn ennill ystod o gymwysterau ar gyfer diwydiant.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Ar y cwrs byddwch yn astudio ystod eang o sesiynau theori ac ymarferol gan gynnwys:

  • Electronig ymarferol / theori
  • Trydanol ymarferol / theori
  • Mathemateg
  • Gwyddoniaeth (Ffiseg)
  • Sgiliau hanfodol

Gofynion mynediad

4 TGAU Gradd A* - D, gan gynnwys Mathemateg A* - C (neu gyfwerth) a Saesneg A* - D. Cymhwyster Peirianneg Lefel 1 addas gyda Gradd A* - C mewn Mathemateg.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiadau ymarferol ac asesiad parhaus

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

EECC2F20
L2

Cymhwyster

EAL Diploma Lefel 2 mewn Technolegau Peirianneg

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Rwyf wirioneddol wedi mwynhau’r sesiyani ymarferol ar y cwrs; ac mae’r cyfleusterau’n wych gan fof ganddynt bopeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer cyflogaeith yn y dyfodol.

Kieran Devine
Cyn-fyfyriwr Peirianneg Drydanol Lefel 3

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

75,000

Ar hyn o bryd, mae dros 75,000 o bobl yn gweithio ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn Peirianneg a Pheirianneg Electronig. Y cyflog cyfartalog y rheini sy’n gweithio yn y diwydiant yw £33,000. (Lightcast, 2022).

Wedi cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen i un o'r cyrsiau lefel uwch yn y coleg, sy'n cynnwys:

  • Lefel 2 City & Guilds Gosodiadau Trydanol
  • EAL Lefel 3 Diploma Cyfrannol mewn Peirianneg - mae hyn yn amodol i eirda boddhaol gan diwtor eich cwrs.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE