Defnyddwyr TG

L1 Lefel 1
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws y Barri

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r Diploma Cyflwyniadol BTEC Lefel 1 mewn Technoleg Gwybodaeth wedi’i ddylunio ar gyfer y rhai sy’n newydd i TG. Mae’n gwrs ymarferol sy’n canolbwyntio ar y cyflwyniad i TG yn y gweithle.  Mae’n gyflwyniad eang i'r sector TG ac mae'n rhoi’r cyfle i ddysgwyr arddangos y cynnydd yn lefelau eu sgiliau. Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau TG a sgiliau trosglwyddadwy perthnasol. Mae’r cymwysterau yn paratoi dysgwyr ar gyfer dilyniant i gyrsiau BTEC Lefel 2 neu raglenni astudio eraill.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Byddwch yn cwblhau prosiectau ac aseiniadau sy'n seiliedig ar sefyllfaoedd, gweithgareddau a gofynion gweithle go iawn.

Mae'r pynciau a astudir ar y cwrs hwn yn cynnwys:

  • Bod yn drefnus
  • Datblygu cynllun cynnydd personol
  • Gweithio gydag eraill
  • Ymchwilio i bwnc
  • Datblygu gwybodaeth ddigidol yn defnyddio TG,
  • Defnyddio Technolegau Cyfathrebu Digidol
  • Datrys Problemau Technegol TG
  • Creu taenlen i ddatrys problemau
  • Creu gwefan
  • Creu Rhaglen Gyfrifiadurol

Byddwch hefyd yn astudio Sgiliau Allweddol Lefel 1 mewn Rhifedd a Chyfathrebu.

Gofynion mynediad

2 TGAU Gradd A-E, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. Rhaid i fyfyrwyr fod yn 16 oed o leiaf. Bydd myfyrwyr newydd yn cael cyfweliad/prawf lleoliad cyn dechrau eu cwrs i sicrhau eu bod yn cael eu gosod ar y lefel gywir.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiadau ysgrifenedig gan gynnwys gwaith cwrs ac asesiadau ymarferol

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ITCR1F01
L1

Cymhwyster

Pearson BTEC Diploma Rhagarweiniol Lefel 1 mewn Technoleg Gwybodaeth

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Fe wnes i fwynhau’r holl wahanol unedau ac aseiniadau oedd angen llawer o ymchwil ar fy nghwrs. Fy hoff beth am CAVC ydy fod y cyfleusterau ar gael i ni eu defnyddio 24/7.”

Heather Curtis Rich
Astudio Technoleg Gwybodaeth a Chyfrifiadura

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

28%

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd glwstwr digidol llewyrchus gyda rhagamcanion o 6,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025, sy’n gyfanswm twf o 28% (EMSI 2019).

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i Lefel 2 yn yr un pwnc neu ddilyn amrywiaeth o gyfleoedd yn y diwydiant.

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ