Mae'r cwrs Seicoleg Troseddol hwn yn gwrs byr, 10 wythnos sy'n rhedeg o fis Medi tan Ragfyr ac mae'n addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa yn gorfodi'r gyfraith neu seicoleg. Trwy gydol y cwrs byddwch yn astudio ystod o bynciau sy'n ymwneud ag ymddygiad troseddol, proffilio troseddwr a seicoleg fforensig a throseddol.
Mae'r cwrs yn dechrau drwy edrych ar ddiffiniadau ymddygiad troseddol a'r dulliau gweithredu i ddeall a datrys trosedd. Yna mae'n archwilio'r defnydd o theorïau wrth ganfod trosedd. Yna, mae'n ymchwilio i'r datblygiad o broffilio troseddwr, gan archwilio'r berthynas rhwng proffilio a dadansoddiad ymddygiadol. Bydd myfyrwyr yn cymharu'r defnydd o broffilio ymddygiadol rhwng y UDA a'r DU ac archwilio a dadansoddi'r defnydd o seicoleg fforensig. Ystyrir trosedd difrifol, e.e. llofruddiaeth, a theorïau seicoleg troseddol ac mae'r uned yn dirwyn i ben drwy ymchwilio i'r chwedlau a'r realitioedd sy'n perthyn i lofruddion cyfresol.
Mae pynciau'r unedau yn cynnwys:
Ffi Arholiad : £9.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00
Ffi Cwrs: £132.00
Rhaid i ymgeiswyr fod â lefel dda o Lythrennedd oherwydd bydd angen rhywfaint o ysgrifennu annibynnol a bydd hyn yn cael ei asesu mewn cyfweliad.
Gwaith cwrs
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yma, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i gwrs Lefel 2 pellach, a fyddai'n dechrau ym mis Ionawr. Hefyd bydd llawer o'r myfyrwyr yn dilyn Tystysgrif CBAC Lefel 3 a Diploma mewn Troseddeg.