Plastro

L1 Lefel 1
Rhan Amser
7 Hydref 2024 — 20 Rhagfyr 2024
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r Dyfarniad lefel 1 mewn plastro yn gwrs blaenllaw i unigolion sy’n chwilio am newid mewn gyrfa. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddatblygu rhai o'r sgiliau addas ar gyfer gweithio fel plastrwr yn y diwydiant adeiladu. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd y cwrs yn helpu i ddatblygu’r sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer plastro bwrdd a sgimio. Enghraifft o'r unedau dan sylw yw:

  • Iechyd a Diogelwch mewn Adeiladu
  • Torri a gosod bwrdd plastr
  • Cymysgu plastr gorffenedig
  • Gosod a gorffen plastr

Asesir y cymhwyster hwn drwy asesiadau ymarferol ac asesiad theori ar gyfer yr uned Iechyd a Diogelwch.

Ar ôl cwblhau’r Dyfarniad Lefel 1, gall myfyrwyr symud ymlaen i’r Cymwysterau Sylfaen Newydd y bwriedir eu cyflwyno ym mis Medi.

Yn ogystal, mae'n ofynnol i ddysgwyr gael eu hesgidiau diogelwch eu hunain cyn dechrau'r cwrs. Gellir prynu'r esgidiau gan unrhyw fanwerthwr.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Gofynion mynediad

Nid oes angen profiad mewn adeiladwaith, byddwn yn mesur eich brwdfrydedd ac ymrwymiad yn ystod y cyfweliad

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

7 Hydref 2024

Dyddiad gorffen

20 Rhagfyr 2024

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

PLCC1P02
L1

Cymhwyster

City & Guilds Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Adeiladu (Plastro)

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

CCTC,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE