Gweithredwr Adeiladu

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r Cwrs Gweithrediadau Adeiladu wedi ei ddylunio i roi golwg sylfaenol ar weithrediadau adeiladu. Mae’n paratoi dysgwyr i ddatblygu at gwrs crefft adeiladu benodol, ar lefel uwch.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Bydd y cwrs yn datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau ymarferol yn ymwneud â gweithrediadau adeiladu a byddwch yn ymdrin ag ystod o weithgareddau ac yn ennill profiad o offer a chyfarpar crefftau, gan gynnwys:

  • Gosod Brics
  • Gwaith saer
  • Paentio ac Addurno
  • Plastro
  • Teilsio waliau a lloriau

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £30.00

Gofynion mynediad

Byddai ymgeiswyr yn elwa o gyflawni 3 TGAU Gradd D-F. Fel arall, bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn seiliedig ar gyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, a'u hawydd a'u hymrwymiad i gwblhau'r cwrs y maent yn dymuno ei astudio.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiad ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig ac arholiadau

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr dan 18 oed
  • Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau
  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn ymrwymedig i gynhwysedd ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hyrwyddo cyfle cyfartal ac i drin pawb yn deg a chyda pharch
  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
  • Mae'r holl gyrsiau'n gywir ar adeg eu lanlwytho neu eu hargraffu
  • Ni allwn redeg cyrsiau heb nifer digonol o fyfyrwyr
  • Sylwer: os dewiswch dri neu fwy o ddewisiadau cwrs, yna fe allech chi gael eich cyfeirio at apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Rwyf wedi mwynhau bod o gwmpas Campws Canol y Ddinas, mae'n amgylchedd braf ac mae pawb yn cyd-dynnu'n dda. Uchafbwynt fy amser yn y coleg oedd gwneud ffrindiau newydd a'r amgylchedd gwahanol i'r ysgol. Gallwch ennill sgiliau newydd a gwneud pethau nad oeddech yn meddwl y gallech eu gwneud o'r blaen.

David Warner
Paentio ac Addurno Lefel 2

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cefnogaeth Dysgu

Mae ein timau cefnogi ymroddedig yn cynnig cefnogaeth gydag anghenion dysgu ychwanegol, cyllid myfyrwyr a mwy.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.