Mae’r rhaglen Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes wedi’i datblygu i roi’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar ddysgwyr i lwyddo yn y sector cyflogaeth ddigidol.
Wedi'i gyflwyno gan Tramshed Tech a'r Big Learning Company, mae'r cwrs hwn yn cwmpasu ystod amrywiol o fodiwlau i roi'r offer sydd eu hangen arnoch i ddeall hanfodion y sector hwn. Bydd sgiliau fel Rheoli Prosiectau a Phrosesau Digidol hefyd yn cael eu harchwilio i’ch helpu i ddeall sut y gellir rhoi’r wybodaeth Ddigidol hon ar waith yn y gweithle. Ochr yn ochr â hyn, cewch gyfle i fynychu gweithdai cyflogadwyedd, sgiliau cyfweld a rhwydweithio i annog cyflogaeth neu ddyrchafiad ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus.
Mae’r bŵtcamp hwn wedi cael ei ddylunio i gynnig y ddamcaniaeth wrth wraidd technolegau digidol a sut y cânt eu cymhwyso’n ymarferol yn y gweithle. Astudir y pynciau canlynol:
AI yn y Byd Modern: Deall AI a Dysgu Peiriant; Adeiladu Model Dysgu Peiriannau; Goblygiadau AI; Defnyddio ChatGPT
Prosesau Digidol: Hanfodion Rheoli Prosiectau; Awtomeiddio Dylunio Proses a Rheoli Llif Gwaith; Gweithredu Prosesau Digidol; Cyfathrebu a Chydweithio Digidol; Cyflwyniadau Ar-lein; Cau ac Adolygu Prosiect
Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata: Hanfodion Marchnata Digidol; Marchnata Effeithiol; Strategaeth Marchnata Digidol; Ymgysylltu, Addysgu neu Ysbrydoli Eich Cynulleidfa; Defnyddio Dadansoddeg
Creu Cynnwys Digidol Ymgysylltiol: Egwyddorion Dylunio; Cyfathrebu Gweledol; Deall eich Cynulleidfa; Deall UK Creu Taith Defnyddiwr
Cyflwyniad i Seiberddiogelwch: Y Mewn a’r Tu Allan i Seiberddiogelwch; Sut i Abnabod Ymosodiadau Seiber; Diogelu eich Rhwydwaith; Arferion gorau
Offer ar gyfer Casglu Data a Delweddu: GDPR; Prosesu Data Personol; Casglu Data Cyfreithlon; Cyflwyno Data; Prosesu gyda Microsoft Excel; Delweddu Data; Dehongli Data gydag AI
Addysgir y modiwlau ochr yn ochr â’r gweithdai ar reoli prosiect a rhwydweithio, gyda chlinigau sgiliau ac adolygiadau cyfoedion rheolaidd. Yn ogystal â hyn, byddwch yn cael mynediad at siaradwyr gwadd o’r diwydiant, yn ogystal â sesiynau mentora un i un i ddarparu canllawiau cyflogadwyedd.
Hyfforddiant ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb. Nid oes asesiad ffurfiol nac arholiad.
Nid oes gan y Bŵt-camp hwn unrhyw ofynion mynediad ffurfiol a bydd yr ymgeiswyr yn cael eu dewis ar sail teilyngdod ar ôl mynd trwy broses sgrinio cyn-gofrestru gyda’r darparwr. Er nad oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol, byddai profiad mewn cofnodi data, y cyfryngau cymdeithasol, cyfathrebu ac ymchwil ar y we, a phrosesu gwybodaeth yn ddiogel, yn fuddiol.
Rhaid i’r ymgeiswyr fod yn 18+ oed a rhaid iddynt fyw neu weithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg. Ni ddylai’r ymgeiswyr fod mewn addysg amser llawn. Bydd angen i’r dysgwyr lenwi holiadur byr a lunnir gan y Big Learning Company, er mwyn helpu i wneud penderfyniadau. Bydd yr holiadur hwn yn cael ei anfon atoch ar ôl ichi lwyddo i fodloni meini prawf cyllido’r prosiect hwn.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae’r Bŵtcamp Digidol wedi cael ei ddylunio i fynd i’r afael â gofynion penodol y farchnad swyddi Cymreig. Bydd dysgwyr yn dysgu sgiliau digidol allweddol, ac yn dysgu sut i fod ar flaen y gad drwy hyfforddiant sgiliau. Mae hyn yn golygu y bydd dysgwyr yn gadael y Bŵtcamp gyda gwybodaeth ddamcaniaethol, yn ogystal â sgiliau ymarferol sy’n berthnasol yn lleol.