Goruchwyliaeth Lletygarwch
Ynglŷn â'r cwrs
Mae ein Diploma NVQ Lefel 3 mewn Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, wedi’i leoli mewn amgylchedd gweithio realistig. Addysgir y rhaglen hon ar ein campws yn y Barri ac mae wedi’i seilio ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, sydd wedi’u hysgrifennu gan gyflogwyr ac arbenigwyr yn y diwydiant Lletygarwch. Mae hwn yn gymhwyster goruchwyliaeth lletygarwch, lle bydd dysgwyr yn gweithio’n rhan amser yn y diwydiant lletygarwch ochr yn ochr â chwblhau'r cwrs. Yn astudio yn ein cyfleusterau pwrpasol, mae’r rhaglen hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd eisoes yn y gweithle ac eisiau datblygu eu gyrfa, neu unrhyw un sydd eisiau symud ymlaen i Oruchwyliaeth Lletygarwch mewn amgylchedd bwyty, derbynfa, bar neu gegin ac yn chwilio am swydd â chyfrifoldeb.
Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster hwn yn profi eich bod yn gallu gweithio at y safonau hynny, ac yn dangos eich bod â’r gallu i fod yn oruchwyliwr mewn busnes Lletygarwch, oherwydd byddwch wedi ennill y sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sydd eu hangen i gyflawni'r rôl hon. Byddwch hefyd yn gweithio fel goruchwyliwr dan hyfforddiant yn y bwyty (y gegin, bwyty, bar ac ardal y dderbynfa), yn gweithio gyda dysgwyr lefel is, a'u cefnogi, i ennill y dystiolaeth ar gyfer y cymhwyster hwn.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Am Ddiploma lefel 3 llawn mewn Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch, rhaid i’r dysgwr gwblhau 5 uned orfodol yn llwyddiannus:
- Gosod amcanion a darparu cymorth i aelodau'r tîm
- Datblygu perthynas waith gyda chydweithwyr
- Cyfrannu at reoli adnoddau
- Cynnal iechyd, hylendid a diogelwch yr amgylchedd gweithio
- Arwain tîm i wella gwasanaeth cwsmer
Unedau dewisol:
Mae ymgeiswyr yn dewis o nifer o unedau sy’n berthnasol i'r llwybr gyrfa maent eisiau ei ddilyn.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £0.00
Gofynion mynediad
5 TGAU Graddau A* i C gan gynnwys Saesneg Iaith a / neu Fathemateg neu Ddiploma Lefel 2 yn yr un maes / mewn maes tebyg
Addysgu ac Asesu
- Asesiad parhaus
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Mae’r cwrs wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi – cyrhaeddais rownd gyn-derfynol Nestle Torgue d’Or ac enillais yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a byddaf yn cystadlu yn WorldSkills UK. Oherwydd y cwrs hwn, rwyf wir yn edrych ymlaen at fy nyfodol.
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau’r cwrs gall ein myfyrwyr symud ymlaen i’r diwydiant, neu ymlaen i'r brifysgol i astudio pwnc fel y Celfyddydau Coginio.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu