Gwaith Saer

yn unig 3 o lefydd ar gael
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynglŷn â'r cwrs

Os ydych yn awyddus i olrhain gyrfa mewn Gwaith Saer, ein cwrs Lefel 1 yw'r lle gorau i ddechrau arni! Trwy astudio yn ein canolfannau a chyfleusterau adeiladwaith pwrpasol, bydd y rhaglen hon yn hyrwyddo amgylchedd diogel, tra eich bod yn dysgu a datblygu eich sgiliau llaw a thechnegau sylfaenol gwaith coed i safon Diploma Lefel 1.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Ymhlith elfennau allweddol y cwrs mae:

  • Iechyd a Diogelwch
  • Trin a storio adnoddau
  • Creu uniad pren sylfaenol
  • Cynnal a chadw a defnyddio offer llaw gwaith saer ac asiedydd
  • Paratoi a defnyddio offer trydanol cludadwy

Byddwch yn dysgu'r sgiliau ymarferol, gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol o'r grefft hon, a fydd yn eich galluogi i fynd ymlaen i'r llwybrau dilyniant ar lefelau penodol i'r maes.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £30.00

Gofynion mynediad

Byddai ymgeiswyr yn elwa o gyflawni 3 TGAU Gradd D-F. Fel arall, bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn seiliedig ar gyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, a'u hawydd a'u hymrwymiad i gwblhau'r cwrs y maent yn dymuno ei astudio.

Addysgu ac Asesu

  • Aseiniadau parhaus ac asesiad diwedd blwyddyn gan gynnwys profion sgiliau ymarferol ac arholiadau ar-lein

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr dan 18 oed
  • Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau
  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn ymrwymedig i gynhwysedd ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hyrwyddo cyfle cyfartal ac i drin pawb yn deg a chyda pharch
  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
  • Mae'r holl gyrsiau'n gywir ar adeg eu lanlwytho neu eu hargraffu
  • Ni allwn redeg cyrsiau heb nifer digonol o fyfyrwyr
  • Sylwer: os dewiswch dri neu fwy o ddewisiadau cwrs, yna fe allech chi gael eich cyfeirio at apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Cyn gynted ag yr oeddwn i'n gwybod bod llwybr cyswllt i ddod yma, roddwn yn teimlo'n gyffrous. Roedd y rhaglen cyswllt ysgolion yn cynnig cyfle imi weld sut beth fyddai astudio yma. Mae'r Coleg yn rhoi llawer o wybodaeth ichi ynghylch y rhesymau pam mae angen ichi gael eich NVQ, a chael prentisiaeth er mwyn sicrhau cyflogaeth amser llawn.

Jake Fuller
Prentis Gwaith Coed a Saernïaeth Mainc

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cefnogaeth Dysgu

Mae ein timau cefnogi ymroddedig yn cynnig cefnogaeth gydag anghenion dysgu ychwanegol, cyllid myfyrwyr a mwy.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

CCTC,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE