Atgyweirio a Chynnal a Chadw Ceir (Canolradd)

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae ein cwrs Trwsio Ceir Lefel 2 Llawn Amser yn ddelfrydol i’r unigolion hynny sy’n awyddus i gychwyn gyrfa yn y diwydiant modurol, gan gwmpasu prif agweddau Trwsio a Gwasanaethu Cerbydau ar lefel ganolradd. Bydd myfyrwyr yn gweithio ar gerbydau go iawn, gan ddefnyddio offer tebyg i’r hyn a ddefnyddir mewn gweithdai trwsio garej. Trwy gydol y cwrs, bydd disgyblion yn defnyddio eu sgiliau a’u gwybodaeth am y sector mewn gweithdai ac ystafelloedd dosbarth pwrpasol, gan weithio ochr yn ochr â staff â chymwysterau’r diwydiant a chymryd rhan mewn amryw o leoliadau gwaith. Rhedir y cwrs dros ddeuddydd a hanner llawn, gan alluogi amser i fyfyrwyr weithio am weddill yr wythnos. Mae’r prif gymhwyster yr un fath â’r un a ddefnyddir yn y Brentisiaeth Sylfaen Cerbyd Ysgafn, a gellir ei ddefnyddio i gyflawni rhan o’r Fframwaith Prentisiaeth. Mae’r cwrs wedi ei rannu 50-50 rhwng gweithdy ac ystafell ddosbarth, ac yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer gwaith cyflogedig trwy ddarparu sylfaen dda iddynt mewn rhedeg gweithdy.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cwrs yn cwmpasu meysydd megis: -

  • Iechyd a Diogelwch
  • Offer a chyfarpar a ddefnyddir wrth Atgyweirio Cerbydau
  • Technegau ar gyfer Gwasanaethu ac Arolygu Ceir
  • Atgyweirio a Chyfnewid Cydrannau Injan
  • Atgyweirio a Newid Systemau Tanwydd
  • Atgyweirio a chynnal a chadw systemau trydanol ceir
  • Atgyweirio Breciau, Llywio, a Hongiad Cerbydau

Gofynion mynediad

3 TGAU Gradd A * - D gan gynnwys Mathemateg neu gyfwerth.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Bu astudio yn CAVC yn brofiad pleserus iawn. Mae gan y Coleg y cyfleusterau gorau yng Nghaerdydd a bu’n gymorth i mi wrth gyflawni fy nodau.

Omer Waheed
Prentis Atgyweirio Corff Cerbyd Lefel 3 presennol

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

18,000

Mae gan Gymru tua 8% o ddiwydiant gweithgynhyrchu modurol y DU ac mae ganddi weithlu medrus o 18,000 o bobl a throsiant blynyddol o £3 biliwn.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ

Campws Dwyrain Caerdydd
Campws Dwyrain Caerdydd

Heol Trowbridge, 
Caerdydd, 
CF3 1QL