Busnes a Chyllid

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

A ydych chi’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau a dealltwriaeth o Astudiaethau Ariannol? Os felly, ein Diploma Sylfaenol BTEC Lefel 3 mewn Busnes (ac Astudiaethau Ariannol), wedi’i ddilyn gan Ddiploma Estynedig BTEC mewn Busnes (ac Astudiaethau Ariannol) yw’r dewis perffaith i chi! Wedi'u lleoli ar ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, bydd myfyrwyr yn ennill cymhwyster ymarferol sy’n gysylltiedig â gwaith, sy’n gyfystyr â thri chymhwyster Safon Uwch. Gan astudio yn nosbarthiadau a gan ddefnyddio cyfleusterau pwrpasol y Coleg, bydd myfyrwyr yn dysgu drwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau sy'n seiliedig ar sefyllfaoedd, gweithgareddau a gofynion gweithle go iawn.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Caiff y Diploma Sylfaen Lefel 3 ei astudio yn y flwyddyn gyntaf, ac mae’n cynnwys 6 uned:

  1. Cyllid Personol a Busnes                                                                        
  2. Cofnodi Trafodion Ariannol                                                                   
  3. Rheoli Dyled Bersonol yn Effeithiol                                                                                                                          
  4. Archwilio Busnes
  5. Datblygu Cynllun Marchnata
  6. Rheoli Digwyddiad

Bydd cwblhau Blwyddyn 1 yn llwyddiannus yn arwain at drosglwyddo i’r Diploma Estynedig Lefel 3 yn yr ail flwyddyn, lle byddwch yn astudio 7 uned bellach, gan gynnwys Datganiadau Ariannol ar gyfer Busnesau Penodol, Cyfleoedd Buddsoddi a Chynllunio Ariannol, Hanfodion a Pholisïau Yswiriant a Hanfodion Cyfreithiol a Moeseg mewn Gwasanaethau Ariannol.
Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cwblhau’r Fagloriaeth Cymru uwch.

Career Ready

Ar ôl i chi ddewis eich cwrs, rydym yn argymell i chi gofrestru ar y rhaglen Career Ready.  Mae'r rhaglen hon yn rhedeg cyfochr â'ch cwrs i'ch rhoi ar daith drawsffurfiol, a bydd yn eich helpu i fynd i fyd gwaith neu'r brifysgol yn hyderus, gyda sgiliau a rhwydweithiau proffesiynol, sydd eu hangen i gyflawni eich potensial.
Byddwn yn cynnig mentor i chi, ymweliadau â gweithle, dosbarthiadau meistr a phrofiadau yn seiliedig ar waith, all gynnwys interniaeth.  Bydd pob un ohonynt yn adeiladu ar eich astudiaethau, i'ch helpu chi i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i lwyddo yn eich gyrfaoedd yn y dyfodol.

Gofynion mynediad

5 TGAU Graddau A* - C gan gynnwys Iaith Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth) neu gymhwyster Busnes Lefel 2 gyda phroffil Teilyngdod. Bydd angen sgôr IELTS o 6.5 neu uwch ar fyfyrwyr rhyngwladol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

BSCC3F03
L3

Cymhwyster

Pearson BTEC Diploma Sylfaen Cenedlaethol Lefel 3 mewn Busnes

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud
Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

7%

Erbyn 2025, rhagwelir y bydd y diwydiant hwn yn tyfu 7% ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan arwain at 2,500 o swyddi ychwanegol. (Lightcast 2021).

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE