Astudiaethau Busnes - AL
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r rhaglen AL Astudiaethau Busnes Rhan Amser yn cwmpasu Astudiaethau Busnes UG ac A2, felly mae’n bosibl i fyfyrwyr gael cymhwyster Safon Uwch llawn o fewn blwyddyn.
Mae gan UG Astudiaethau Busnes ddwy uned yn trafod:
- Cyfleoedd Busnes
- Swyddogaethau Busnes
Mae A2 yn dilyn ymlaen o UG gyda dwy uned:
- Dadansoddiad a Strategaeth Busnes
- Busnes mewn Byd sy'n newid
Beth fyddwch yn ei astudio?
Mae manylion pellach yr holl unedau fel a ganlyn:
Uned 1: Cyfleoedd Busnes
- Dechrau Busnes - yr heriau a phroblemau o gychwyn busnes; menter a mentrwyr.
Fe asesir hyn yn defnyddio arholiad ysgrifenedig o 1 awr a 15 munud.
Uned 2: Swyddogaethau Busnes
- Marchnata - dylunio a gweithredu cymysgedd marchnata effeithiol.
- Cyllid - archwilio cyllidebau a sut gall busnesau wella llif arian ac elw.
- Rheoli Gweithrediad - edrych ar sut mae technoleg yn gwella busnes.
- Pobl mewn Busnes - strwythurau sefydliadol, recriwtio, hyfforddiant ac ysgogiad.
Mae’r arholiad allanol yn 2 awr, gan gynnwys cwestiynau ymateb data gofynnol.
Uned 3: Dadansoddiad a Strategaethau Busnes
- Mae hyn yn canolbwyntio ar dechnegau dadansoddol ac archwiliad manwl o strategaethau busnes yn defnyddio astudiaethau achos bach.
Arholiad ysgrifenedig o 2 awr 15 munud yn cynnwys cwestiynau strwythuredig.
Uned 4: Y Busnes mewn Byd sy’n Newid
- Mae hyn yn canolbwyntio ar sut mae busnes yn delio â’r byd deinamig. Bydd y papur hwn yn archwilio’r cynnwys cyfan, o fewn cyd-destun yr amgylchedd allanol.
Arholiad ysgrifenedig allanol o 2 awr a 15 munud, sy'n cynnwys astudiaeth achos a chwestiynau gofynnol ac ail adran o ddewis o draethodau.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Arholiad : £90.00
Ffi Cwrs: £560.00
Gofynion mynediad
5 TGAU A-C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg
Amseroedd cwrs
17:45 - 20:45 Dydd Llun
Addysgu ac Asesu
- Pedwar arholiad ysgrifenedig
Pwyntiau pwysig
- Mae’r Coleg yn croesawu cyswllt gyda rhieni/gwarcheidwaid myfyrwyr sydd dan 18 oed
- Mae cefnogaeth atodol ar gael i fyfyrwyr gydag anawsterau dysgu ac anableddau
- Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn ymroddedig i gynhwysiant ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol y byddwn hyrwyddo cydraddoldeb cyfle ac yn trin pawb yn deg a gyda pharch
- Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r cwrs yma heb rybudd o flaen llaw
- Mae’r cyrsiau i gyd yn gywir ar yr adeg y’i huwchlwythir neu wrth fynd i’r wasg
- Dim ond os oes digon o niferoedd y gellir cynnal cyrsiau
- Sylwer, os byddwch chi’n dewis tri neu fwy dewis o gwrs, efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio am apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Penderfynais astudio yn y Coleg gan fy mod eisiau teithio a bod yn fwy annibynnol - mae’r campws mor fodern ac yn edrych yn wych. Ar ôl gweld y llyfrgell roedd y penderfyniad wedi’i wneud. Heb air o gelwydd, y llyfrgell oedd y prif atyniad i mi, roedd yna cymaint o lyfrau yna, roeddwn wrth fy modd.
Daeth rhywun i siarad â ni am Ymddiriedolaeth Sutton, sy’n rhoi blas i fyfyrwyr o fywyd mewn prifysgolion Americanaidd. Gwnes gais i fod yn rhan o’r rhaglen - roedd yn gystadleuol iawn ond cefais fy newis i gymryd rhan. Roeddem yn ymweld â thalaith wahanol bob dydd, a
buom i lawer o wahanol golegau gan gynnwys Princeton a Harvard. Treuliais wythnos hefyd ym Mhrifysgol Warwick ac wythnos ym Mhrifysgol Nottingham. Roedd yn brofiad mor dda - roeddwn wrth fy modd. Rydych yn cael llawer o gefnogaeth yn y Coleg, yn enwedig gan y tîm Gyrfaoedd a Syniadau.
Rwy’n meddwl bod yna lawer mwy o gyfleoedd yma gan ei fod yn goleg mor fawr gyda chymaint o adnoddau.
Angen gwybod
Ein Rhaglen Ysgolheigion Safon Uwch
Cefnogaeth Dysgu