Gweinyddu Busnes

L4 Lefel 4
Rhan Amser
6 Tachwedd 2024 — 18 Mehefin 2026
Ar-lein
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r Ddiploma Lefel 4 hon mewn Gweinyddu Busnes ar gyfer dysgwyr sy'n gweithio, neu sydd eisiau gweithio mewn swyddi Gweinyddu Busnes megis: 

  • Rheolwr Swyddfa 
  • Rheolwr Rhaglen 
  • Cynorthwyydd Gweithredol                                                                            

Cynhelir y cwrs ar nos Mawrth o 5.30pm - 8.30pm drwy gydol y flwyddyn academaidd, yn cynnwys pedwar diwrnod llawn yn ystod y cwrs.    

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys gwybodaeth sy'n gysylltiedig â:

  • Busnes
  • Systemau Gweinyddu
  • Cyfathrebu mewn busnes
  • Rheoli hunan-ddatblygu
  • Gwella perfformiad busnes
  • Rheoli gwasanaeth cwsmer 
  • Egwyddorion gweinyddu ar gyfer cynorthwyydd gweithredol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £168.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Ffi Arholiad : £167.00

Gofynion mynediad

Cymhwyster lefel 3 neu brofiad diwydiannol perthnasol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

6 Tachwedd 2024

Dyddiad gorffen

18 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

BSCC4P03
L4

Cymhwyster

Pearson BTEC Diploma Lefel 4 mewn Gweinyddu Busnes

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Rwyf wir wedi mwynhau fy amser yn astudio Busnes yma yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Dwi wedi dysgu cymaint! Mae’r addysg a’r gefnogaeth wedi bod yn wych drwy gydol fy amser yma.

Daria Simion
Myfyriwr Busnes Lefel 3

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

7%

Erbyn 2025, rhagwelir y bydd y diwydiant hwn yn tyfu 7% ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan arwain at 2,500 o swyddi ychwanegol. (Lightcast 2021).