HNC mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Gwresogi, Awyru & Aerdymheru)

L4 Lefel 4
Rhan Amser
11 Medi 2023 — 16 Mai 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Datblygwyd y rhaglen hon i fynd i'r afael â'r prinder sgiliau presennol o fewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu, yn fwy penodol Plymio, Gwresogi, Awyru ac Aerdymheru.

Mae hwn yn bwnc delfrydol i fyfyrwyr sydd eisiau dod yn beiriannydd gwasanaethau adeiladu Plymio a Gwresogi neu ddilyn unrhyw lwybr gyrfa proffesiynol arall yn y sector.

Bydd y rhaglen hon yn rhoi'r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen arnoch i symud ymlaen ymhellach yn y diwydiant peirianneg gwasanaethau adeiladu ac agor y drws i yrfa newydd.  Byddwch hefyd yn ennill cymhwyster cydnabyddedig a fydd yn sbringfwrdd tuag at gyflawni eich gradd.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio’r 8 modiwl canlynol,

Uned 1: Prosiect Unigol (wedi’i osod gan y sefydliad dyfarnu)

Uned 2: Technoleg Adeiladu

Uned 3: Gwyddoniaeth a Deunyddiau

Uned 4: Yr Amgylchedd Adeiladu

Uned 6: Rhaglenni Digidol ar gyfer Gwybodaeth Adeiladu.

Uned 8: Mathemateg ar gyfer adeiladwaith.

Uned 9: Egwyddorion gwresogi, awyru ac aer.

Addysgu ac asesu

Bydd y rhaglen yn cael ei haddysgu gan ddefnyddio cyfuniad o ddarlithoedd, siaradwyr gwadd a thiwtorialau. Bydd y rhaglen yn cael ei hasesu drwy ddefnyddio cyfuniad o aseiniadau, asesiadau ymarferol ac arholiadau.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Dysgu: £1,920.00

Gofynion mynediad

48 o Bwyntiau Tariff UCAS o'r llwybrau a restrir isod:

  • Cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig (neu bwnc cysylltiedig)
  • Proffil TAG Lefel Uwch sy'n dangos perfformiad cryf mewn pwnc perthnasol neu berfformiad digonol mewn mwy nag un pwnc TAG; mae'r proffil hwn yn debygol o gael ei gefnogi gan raddau TGAU A* i C a/neu 9 i 4 (neu gyfwerth) mewn pynciau fel Mathemateg a Saesneg
  • Cymwysterau Lefel 3 cysylltiedig eraill
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch a ddyfarnwyd gan sefydliad addysg bellach cymeradwy
  • Cymhwyster rhyngwladol sy’n gyfwerth a’r uchod.

Ymgeiswyr hŷn (21+ oed): Os nad oes gennych y cymwysterau a restrir ond bod gennych brofiad gwaith perthnasol, mae croeso i chi wneud cais. Bydd eich cais yn cael ei ystyried ar sail unigol. PPE/Offer sydd ei angen: Gliniadur, Esgidiau Diogelwch, Llyfr Nodiadau, Deunydd Ysgrifennu, cof bach USB

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

11 Medi 2023

Dyddiad gorffen

16 Mai 2025

Amser o'r dydd

Diwrnod/ Amser

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

BDCC4P02
L4

Cymhwyster

Pearson BTEC Level 4 Higher National Certificate in Building Services Engineerin

Mwy...

Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Ar ôl cwblhau’r cwrs HNC gall dysgwyr fynd ymlaen i astudio cwrs HND mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Gwresogi, Awyru & Aerdymheru) neu fynd yn uniongyrchol i gyflogaeth yn y sector adeiladu.

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cefnogaeth Dysgu

Mae ein timau cefnogi ymroddedig yn cynnig cefnogaeth gydag anghenion dysgu ychwanegol, cyllid myfyrwyr a mwy.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

CCTC,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE