HNC mewn Gwasanaethau Adeiladu (Trydanol)
Ynghylch y cwrs hwn
Datblygwyd y rhaglen hon i fynd i'r afael â'r prinder sgiliau presennol o fewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu, yn fwy penodol Gosodiadau Trydanol.
Mae hwn yn bwnc delfrydol i fyfyrwyr sydd eisiau dod yn beiriannydd Gosodiadau Trydanol a gweithio yn y gwasanaethau adeiladu.
Bydd y rhaglen hon yn rhoi'r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen arnoch i symud ymlaen ymhellach yn y diwydiant peirianneg gwasanaethau adeiladu ac agor y drws i yrfa newydd. Byddwch hefyd yn ennill cymhwyster cydnabyddedig a fydd yn sbringfwrdd tuag at gyflawni eich gradd.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio’r 8 modiwl canlynol:
Uned 1: Prosiect Unigol (wedi’i osod gan y sefydliad dyfarnu)
Uned 2: Technoleg Adeiladu
Uned 3: Gwyddoniaeth a Deunyddiau
Uned 4: Yr Amgylchedd Adeiladu
Uned 6: Cymwysiadau Digidol ar gyfer Gwybodaeth Adeiladu
Uned 8: Mathemateg ar gyfer Adeiladu
Uned 18: Egwyddorion Dylunio a Gosod Trydanol
Uned 22: Egwyddorion Gwyddonol ar gyfer Gwasanaethau Adeiladu
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Dysgu: £1,920.00
Gofynion mynediad
48 o Bwyntiau Tariff UCAS o'r llwybrau a restrir isod:
- Cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig (neu bwnc cysylltiedig)
- Proffil TAG Lefel Uwch sy'n dangos perfformiad cryf mewn pwnc perthnasol neu berfformiad digonol mewn mwy nag un pwnc TAG; mae'r proffil hwn yn debygol o gael ei gefnogi gan raddau TGAU A* i C a/neu 9 i 4 (neu gyfwerth) mewn pynciau fel Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau Lefel 3 cysylltiedig eraill
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch a ddyfarnwyd gan sefydliad addysg bellach cymeradwy
- Cymhwyster rhyngwladol sy’n gyfwerth a’r uchod.
Ymgeiswyr hŷn (21+ oed): Os nad oes gennych y cymwysterau a restrir ond bod gennych brofiad gwaith perthnasol, mae croeso i chi wneud cais. Bydd eich cais yn cael ei ystyried ar sail unigol. PPE/Offer sydd ei angen: Gliniadur, Esgidiau Diogelwch, Llyfr Nodiadau, Deunydd Ysgrifennu, cof bach USB
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Ar ôl cwblhau’r cwrs HNC gall dysgwyr fynd ymlaen i astudio cwrs HND mewn Gwasanaethau Adeiladu - Peirianneg Drydanol neu fynd yn uniongyrchol i gyflogaeth yn y sector adeiladu
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu