BSc (Hons) mewn Seiberddiogelwch
Ynghylch y cwrs hwn
Wrth i fwy o bobl dreulio fwyfwy o amser ar-lein, mae'r data y maent yn ei gynhyrchu yn cynyddu. Os nad oes gan sefydliadau a chwmnïau systemau gwybodaeth diogel yna gall data fynd i'r dwylo anghywir, sy'n gallu achosi canlyniadau peryglus. Mae'r cwrs BSc mewn Seiberddiogelwch hwn wedi'i ddylunio i hyfforddi gweithwyr proffesiynol ym maes diogelwch y dyfodol, gan gyfuno cysyniadau ac egwyddorion sylfaenol ag amlygiad i dechnolegau a datrysiadau newydd.
Bydd myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth ymarferol o'r prif faterion sy'n gysylltiedig â dylunio, dadansoddi a gweithredu systemau diogelwch TG modern. Bydd y cwrs yn datblygu gallu myfyrwyr i adnabod y materion cyfreithiol, cymdeithasol, moesegol a phroffesiynol sy'n ymwneud ag amlygu technoleg Seiberddiogelwch a chael eu harwain drwy fabwysiadu arferion proffesiynol, moesegol a chyfreithiol priodol.
Mae'r cwrs wedi'i ddylunio i fodloni anghenion y diwydiant/gofynion y farchnad swyddi, a chynhyrchu graddedigion sy'n wybodus ac sydd wedi'u cyfarparu'n addas i fodloni anghenion y diwydiant. Bydd myfyrwyr sy'n astudio ar y radd seiberddiogelwch hon yn:
- meithrin y sgiliau sydd eu hangen i fynd i'r afael â systemau diogelwch modern
- datblygu gwerthfawrogiad o gyfarpar, meddalwedd a gwasanaethau Seiberddiogelwch masnachol a chod agored
- dysgu'r arferion rheoli a chymwysiadau sy'n ganolog i faterion Seiberddiogelwch
- datblygu sgiliau rhyngbersonol a chraffter busnes.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Blwyddyn 1
- Pensaernïaeth Cyfrifiadur
- Rhaglennu
- Mathemateg ar gyfer Cyfrifiadura
- Algorithmau a Mathau o Ddata
- Systemau Gwybodaeth a Chronfeydd Data (ISDB)
- Seiberddiogelwch mewn Cymdeithas
Blwyddyn 2
- Cryptograffeg Gymhwysol
- Cyfrifiadura Dosranedig
- Datblygu Apiau Symudol (MAD)
- Rhwydwaith a Diogelwch
- Diogelwch y Rhyngrwyd ac Apiau Symudol (WMAS)
Blwyddyn 3
- Rheoli Diogelwch Menter
- Trosedd Seiber
- Rhyngwyneb Iaith Naturiol
- Pynciau Uwch mewn Seiberddiogelwch
- Prosiect
Yn amodol ar gymeradwyaeth gan Brifysgol Gorllewin Llundain mewn digwyddiad cymeradwyo ym Mehefin 2020.
Noder: Gallwch wneud cais am y cwrs hwn naill ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol gyda'r Coleg.
Os ydych yn gwneud cais drwy UCAS, defnyddiwch y manylion canlynol:
Cod Cwrs - I114, Cod Prifysgol - W05, Cod Campws - 1
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Dysgu: £9,000.00
Gofynion mynediad
Pwyntiau UCAS 112-120. Gall hyn gynnwys;
- Lefel A gradd B, B a C, neu uwch
- Diploma Estynedig BTEC gyda Rhagoriaeth, Teilyngdod, Teilyngdod
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch
- Byddwch hefyd angen TGAU Saesneg a Mathemateg (gradd 9-4 / A* - C) neu Lefel 2 sydd yn gyfwerth
Ymgeiswyr hŷn (21+ oed): Os nad yw’r cymwysterau a nodir gennych, ond mae gennych y profiad gwaith perthnasol, mae croeso i chi ymgeisio. Bydd eich cais yn cael ei ystyried ar sail unigol.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Wedi'i achredu gan:
Cyfleusterau
Mwy...
Dwi wedi bod yn astudio TG yn y Coleg ac mae’r cwrs HND yma’n wych gan ei fod yn fwy trylwyr ar y lefel yma ac wedi ei ddarparu mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru. Dwi wedi cael profiad o ddatblygu gwefannau yn ogystal â rhaglennu, cronfeydd data ac erbyn hyn agweddau ymarferol fel cyfryngau digidol – sy’n cynnwys Photoshop, HTML a chynhyrchu gwefannau trwy Rich Media. Mae’r sgiliau yma yn drosglwyddadwy iawn. Mae’r tiwtoriaid yn gymwynasgar iawn – dwi’n gallu gofyn am gyngor pryd bynnag y byddaf ei angen.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu