Therapi Harddwch

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 18 Gorffennaf 2025
Campws y Barri

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein Diploma VTCT Lefel 1 a 2 (PAL) mewn Therapi Harddwch wedi'i dargedu at y dysgwyr hynny sy'n awyddus i weithio a datblygu eu sgiliau mewn amgylchedd masnachol.  Dim ond y colegau hynny sydd â salon neu fynediad at salon 'go iawn', yn hytrach nag amgylchedd gweithio realistig, sy’n cael darparu'r cymhwyster hwn.  Mae’n cynnwys yr holl elfennau angenrheidiol i weithio’n effeithiol fel therapydd harddwch, gan gynnwys: 

Unedau gorfodol:

• Cynorthwyo gyda gosodiadau yn barod ar gyfer y triniaethau salon a Harddwch 
• Triniaethau i'r Wyneb 
• Cwyro 
• Triniaeth Dwylo  
• Triniaeth Traed 
• Colur 
• Mireinio aeliau a blew amrannau; Siapio aeliau a lliwio aeliau a blew amrannau, amrannau ffug, codi amrannau a thriniaethau pyrm.
• Anatomeg a Ffisioleg 
• Iechyd a Diogelwch 
• Hufen a Lliw Haul Chwistrell  
• Derbynfa 
• Gofal Cleientiaid 
• Arddangos Stoc 

Datblygiad sgiliau pellach:

• Tiwtorial 
• Cyfathrebiadau 
• Cymhwyso Rhif 

Beth fyddwch yn ei astudio?

Disgwylir i fyfyrwyr gynnal triniaethau ar ei gilydd yn y dosbarth, ar fodelau ac ar gleientiaid sy’n talu fel ymarfer ac ar gyfer asesiadau. 

Bydd hefyd angen i fyfyrwyr gwblhau profiad gwaith gorfodol ar bum dydd Sadwrn ar rota ar gampws Canol y Ddinas, a phythefnos o brofiad gwaith masnachol.  

Yn ogystal â hyn, bydd myfyrwyr angen prynu cit gwisg, cit harddwch, cit colur a llyfr testunau (Cyfanswm oddeutu £500).

Gofynion mynediad

3 TGAU Graddau A* - D gan gynnwys Iaith Saesneg (neu gyfwerth h.y. sgiliau allweddol neu gymwysterau seiliedig ar waith). Fel arall, cyflawni Lefel 1 (Harddwch) yn llwyddiannus a geirda boddhaol gan Diwtor y Cwrs i nodi ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da NEU ddysgu blaenorol a phrofiad gwaith.

Addysgu ac Asesu

Aseiniadau, taflenni gwaith ac arholiadau cwestiynau aml-ddewis ar-lein. Asesiadau ymarferol ar gleientiaid.

Asesiad parhaus ac asesiad ymarferol gan gynnwys arholiadau.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

"Rwy’n mwynhau fy nghwrs oherwydd mae’n cymryd lle mewn salon byd go iawn ac rwy’n cael profiad gwaith gyda ddigon o gyfleusterau.”

Freya Rees
Cyn-fyfyriwr Harddwch lefel 2 a 3

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

Mae hwn yn gwrs Lefel 1 a 2, sy’n gymhwyster a gydnabyddir yn broffesiynol ar hyd a lled y byd.  Gall myfyrwyr symud ymlaen i L3 Therapi Harddwch neu L3 colur Theatrig.

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.