Harddwch a Therapi Sba

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein Diploma NVQ Lefel 3 VTCT mewn Therapi Harddwch a Sba yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol ar gyfer dysgwyr sy’n ceisio gyrfa fel therapydd harddwch/sba cyflogedig a/neu hunangyflogedig. Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei gydnabod gan brif gyrff proffesiynol y DU fel un sy'n addas i'r diben ar gyfer paratoi dysgwyr ar gyfer gyrfa yn y sector, ac mae'n cynnwys yr holl elfennau gofynnol i weithio'n effeithiol fel therapydd harddwch gan gynnwys:

Rhoi triniaethau tylino’r corff
Rhoi triniaethau tylino’r pen Indiaidd                                                         

Rhoi triniaethau therapi cerrig
Rhoi triniaethau aromatherapi gydag olewau wedi’u cymysgu ymlaen llaw                                                  

Rhoi triniaethau lapio’r corff a darparu gwasanaethau arnofio sych
Monitro a gweithredu triniaethau sawna, stêm a hydrotherapi
Monitro gweithdrefnau yn y salon
Cyfrannu at gynllunio digwyddiad hyrwyddo

Beth fyddwch yn ei astudio?

Bydd dysgwyr yn datblygu eu dealltwriaeth a’u sgiliau ymhellach drwy ddewis nifer o unedau arbenigol dewisol sy’n cynnwys:

Rhoi triniaethau trydanol i’r wyneb                                                                                      

Rhoi triniaethau trydanol i’r corff


Mae strwythur y cymhwyster hwn hefyd yn rhoi'r hyblygrwydd i unigolion ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau ar gyfer eu llwybr gyrfa dynodedig fel therapydd harddwch/sba. Bydd hefyd yn ofynnol i unigolion ddatblygu gwybodaeth gadarn am anatomi a ffisioleg ar gyfer triniaethau therapi'r corff.
Mae'r meysydd ychwanegol yr ymdrinnir â nhw yn cynnwys:

Llythrennedd a Rhifedd Sgiliau Hanfodol Cymru
Bydd angen i fyfyrwyr gwblhau E-bortffolios, yn ogystal â thystiolaeth ddamcaniaethol ac ymarferol o asesu. Bydd myfyrwyr hefyd yn cwblhau arholiadau allanol a phortffolios Sgiliau Hanfodol.

Byddwch yn cael y cyfle i weithio mewn amgylchedd masnachol prysur er mwyn datblygu eich sgiliau a’ch cymhwysedd galwedigaethol.


Yn ogystal, mae hefyd yn ofynnol i ddysgwyr brynu iwnifform ac offer i wneud y cwrs – costau i’w cadarnhau wrth gofrestru.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Salon: £30.00

Gofynion mynediad

Cymhwyster Therapi Harddwch Lefel 1 llawn – Angen tystiolaeth ardystio. Cyflawniad llwyddiannus mewn Diploma Lefel 2 perthnasol (Harddwch). Cyfweliad a geirda boddhaol gan y Tiwtor Cwrs yn nodi ymddygiad da, presenoldeb a chynnydd boddhaol. Ystyrir dysgu blaenorol a phrofiad gwaith hefyd.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiad parhaus ac asesiad ymarferol gan gynnwys arholiadau

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Harddwch a Therapi Sba

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

"Rwy’n mwynhau fy nghwrs oherwydd mae’n cymryd lle mewn salon byd go iawn ac rwy’n cael profiad gwaith gyda ddigon o gyfleusterau.”

Freya Rees
Cyn-fyfyriwr Harddwch lefel 2 a 3

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

VTCT Lefel 4 Estheteg Anfeddygol

VTCT Lefel 3 Therapïau Cyflenwol

Tylino Chwaraeon

Cyfleoedd cyflogaeth mewn sbas, salonau, clinigau a llongau mordaith

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE