Trydan Cartref Sylfaenol - Canolradd
Ynghylch y cwrs hwn
Mae'r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth am osodiadau trydanol domestig gan drafod y 6 deilliant dysgu a restrir isod.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Mae'r deilliannau dysgu yn cynnwys y canlynol:
1. Gwybod am y peryglon posib wrth osod systemau trydanol.
2. Gallu gosod gwifriad ar gyfer popty.
3. Gallu gosod gwifriad ar gyfer cawod drydanol.
4. Deall sut i ddefnyddio cebl daearu a chlampiau daearu.
5. Gallu cynllunio dyluniad trydanol ardal benodol.
6. Gallu defnyddio amlfesurydd gyda chydrannau trydanol a ddefnyddir mewn cylchedwaith.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cwrs: £30.00
Gofynion mynediad
Yn addas i ymgeiswyr sydd yn frwdfrydig ac eisiau llwyddo. Byddai ymgeiswyr yn elwa o fod wedi cwblhau’r cwrs blas Trydan Cartref Sylfaenol - a chwrs blas Cychwynnwr, ond nid yw hyn yn hanfodol.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
Trwy gydol fy nghyfnod yn CAVC fe ddefnyddiais amrywiaeth o offer, yn cynnwys; heyrn sodro, osgilosgopau a chyflenwadau pŵer. Rwy'n credu y bydd cyfuno’r sgiliau academaidd ac ymarferol yr wyf wedi eu caffael yn y coleg yn cyfuno fy sgiliau dylunio cynnyrch a thrydanol cyn mynd i'r brifysgol.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu