Barbro

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae hwn yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol i ddysgwyr sy'n awyddus i gael gyrfa fel barbwr dan hyfforddiant cyflogedig a/neu hunangyflogedig. Mae'r cymhwyster hwn yn seiliedig ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) mewn Barbro Lefel 2, ac a gydnabyddir gan gymdeithas broffesiynol blaenllaw'r DU (Cymdeithas Barbwyr Prydain - BBA) fel y safonau addas i baratoi dysgwyr am yrfa fel barbwr dan hyfforddiant. 

Bydd gofyn i'r holl ddysgwyr wisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) bob amser yn y salonau a'r clinig. Mae'n rhaid i'r dysgwr brynu'r wisg lawn. Mae hyn yn cynnwys tiwnig, trywsus ac esgidiau caeedig fflat.

Bydd y canlynol yn cael eu darparu gan y coleg:

  • Gorchudd Wyneb
  • Fisor
  • Ffedogau Plastig
  • Menig Llawfeddygol

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau sy'n ofynnol i weithio'n effeithiol fel barbwr iau, yn cynnwys: 

Dyletswyddau Derbynfa
Iechyd a diogelwch
Ymgynghori â chleientiaid
Golchi a chyflyru gwallt
Toriadau gwallt sylfaenol
Chwyth-sychu a gorffen
Torri blew wyneb i siâp
Datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith

Mae’r unedau hyn i gyd yn orfodol.
Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth a’u sgiliau ymhellach drwy ddewis nifer o unedau arbenigol dewisol sy’n cynnwys:

Cynorthwyo gyda siafio
Creu patrymau sylfaenol
Dyletswyddau Derbynfa

Mae’r rhestr lawn o opsiynau dewisol wedi’u cyflwyno yn y llyfr Cofnod o Asesu (ROA) Dysgwr (manyleb).

Mae strwythur y cymhwyster hwn yn rhoi'r hyblygrwydd i ddysgwyr ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau yn dibynnu ar eu llwybr gyrfa dynodedig fel barbwr iau.

Ar y cwrs hwn byddwch yn gweithio ar ddatblygu eich Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST).  Bydd disgwyl i’r dysgwyr hefyd hyrwyddo’r Gymraeg trwy weithio tuag at Gymraeg Gwaith. 

Bydd costau ychwanegol ar gyfer iwnifform a’r cit barbro llawn yn cael eu cadarnhau wrth gofrestru.

Chi fydd yn gyfrifol am drefnu eich modelau eich hun ar gyfer asesiadau ymarferol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Salon: £30.00

Gofynion mynediad

Gellir defnyddio cyrhaeddiad Lefel 1 blaenorol mewn cymhwyster trin gwallt/barbro neu bydd angen o leiaf 3 gradd TGAU A*-D mewn Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg, neu gymhwyster lefel 2 cyfwerth. Bydd angen i chi gyflawni cyfweliad llwyddiannus a chwblhau asesiad cychwynnol. Bydd dysgwyr hefyd yn gyfrifol am ddod â'u modelau eu hunain i mewn fel sylfaen cleientiaid er mwyn cwblhau eu hasesiadau. Bydd angen i bob dysgwr brynu cit barbro llawn ychwanegol, yn ogystal â’r offer diogelu personol ar ddechrau’r cwrs. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhoi ar ddiwrnod y cyfweliad. Bydd rhestr o’r cit llawn ar gael i’w phrynu ar wahân.

Dulliau addysgu ac asesu

Asesiadau Ymarferol 

2 Arholiad Ysgrifenedig: Siampŵ a Chyflyru Ymgynghori

Bydd dysgwyr hefyd yn gyfrifol am ddod â'u modelau eu hunain i mewn fel sylfaen cleientiaid er mwyn cwblhau eu hasesiadau. Bydd angen i bob dysgwr brynu cit barbro llawn ychwanegol, yn ogystal â’r offer diogelu personol ar ddechrau’r cwrs. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhoi ar ddiwrnod y cyfweliad. Bydd rhestr o’r cit llawn ar gael i’w phrynu ar wahân.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

HBCC2F32
L2

Cymhwyster

VTCT Diploma NVQ Lefel 2 mewn Barbro

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

Gallu mynd allan i weithio yn y maes. Neu symud ymlaen i gwrs trin gwallt Lefel 2.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE