Pobydd, Patisserie a Melysion

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Ein rhaglen bobi 1 flwyddyn yw'r cwrs delfrydol ar gyfer yr unigolion hynny sy'n ystyried dysgu pellach a symud ymlaen i addysg a hyfforddiant pobi, a bydd yn darparu lefel uwch ar gyfer gyrfa yn y diwydiant pobi. Wedi ei leoli ar ein campws yng Nghanol Caerdydd, bydd y cymhwyster yma yn datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau ymarferol mewn bara a melysion, a fydd yn ofynnol i weithio ym mecws y coleg. Gan hyfforddi ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, bydd myfyrwyr yn dysgu mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnwys ceginau hyfforddi anferth, cigfeydd, becysiau a'n bwyty blaenllaw yng nghanol y ddinas, 'The Classroom'. Mae'r rhaglen hon yn cynnig y cyfle i ddisgyblion ddatblygu sgiliau a gwybodaeth lefel uwch mewn ystod eang o dechnegau gweithgynhyrchu becws.

Mae'n rhaid gallu gweithio boreau cynnar yn ein becws mewnol, cyflwyno gwaith mewn cystadlaethau a gweithio rhan amser mewn busnes becws neu fusnes arlwyo.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Ar gyfer Diploma Lefel 3 llawn mewn Pobi Proffesiynol (FfCCh), bydd rhaid i'r dysgwr gwblhau 55 credyd yn llwyddiannus. Mae'r unedau yn cynnwys modiwlau megis:

  • Sgiliau crefft mewn Blodau Siwgr â Gwifren
  • Sgiliau crefft mewn Siocled a Ganache
  • Sgiliau crefft mewn Bara a Thoes
  • Sgiliau crefft mewn Pethau Melys Almon a Siwgr
  • Teisennau dathlu uwch
  • Sgiliau Peipio/Eising Brenhinol Uwch
  • Sgiliau Ffondant a Modelu Uwch

Gofynion mynediad

Diploma neu dystysgrif Lefel 2 mewn becws. Eisoes yn weithiwr proffesiynol yn y busnes becws neu yn berchen ar fusnes becws, patisserie neu felysion neu feddu ar gymhwyster arlwyo lefel 2 gyda sgiliau sy'n berthnasol i'r proffesiwn becws.

Addysgu ac Asesu

Gwaith cwrs gan gynnwys asesiadau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CTCC3F01
L3

Cymhwyster

FDQ Diploma Lefel 3 mewn Pobi Proffesiynol

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Mae’r cwrs wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi – cyrhaeddais rownd gyn-derfynol Nestle Torgue d’Or ac enillais yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a byddaf yn cystadlu yn WorldSkills UK. Oherwydd y cwrs hwn, rwyf wir yn edrych ymlaen at fy nyfodol.

Ruby Pile
Myfyriwr Rheolaeth Lletygarwch lefel 3

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

78,000

Ar hyn o bryd, mae dros 78,000 o swyddi yn y Sector Lletygarwch ac Arlwyo, a rhagwelir y bydd hyn yn tyfu 6.3% erbyn 2025. (EMSI 2021).

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i ddilyn cyrsiau addysg uwch. Bydd llawer o fyfyrwyr hefyd yn manteisio ar wahanol gyfleoedd gwaith yn y diwydiant.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE