Pobydd, Patisserie a Melysion

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Ein rhaglen bobi 1 flwyddyn yw'r cwrs delfrydol ar gyfer yr unigolion hynny sy'n ystyried dysgu pellach a symud ymlaen i addysg a hyfforddiant pobi, a bydd yn darparu sylfaen ar gyfer gyrfa yn y diwydiant pobi. Wedi ei leoli ar ein campws yng Nghanol Caerdydd, bydd y cymhwyster yma yn datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau ymarferol mewn bara a melysion, a fydd yn ofynnol i weithio ym mecos y coleg. Gan hyfforddi ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, bydd myfyrwyr yn dysgu mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnwys ceginau hyfforddi anferth, cigfeydd, becosau a'n bwyty blaenllaw yng nghanol y ddinas, 'The Classroom'. Mae'r rhaglen hon un cynnig y cyfle i ddisgyblion ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ymarferol canolradd mewn ystod eang o dechnegau gweithgynhyrchu becos.  

Mae'n rhaid gallu gweithio boreau cynnar yn ein becws mewnol, gwneud gwaith gyda myfyrwyr becws lefel tri a chystadlu mewn cystadlaethau.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Ar gyfer Diploma Lefel 2 llawn mewn Pobi Proffesiynol (FfCCh), rhaid i fyfyrwyr gwblhau 57 credyd yn llwyddiannus. Mae'r unedau yn cynnwys modiwlau megis:

  • Pethau Melys
  • Gwaith siocled a siwgr
  • Bara Cyfandirol
  • Crwst Denmarc
  • Teisennau dathlu
  • Peipio
  • Gwneud blodau

Bydd disgwyl i ddisgyblion ddangos y gallent weithio ar eu pen eu hunain ac fel rhan o dîm. Mae'n bosibl bydd cyfle i ddysgwyr ymweld â sioeau masnach megis Hotelympia a gwahanol sefydliadau perthnasol. Caiff y cwrs diploma ei asesu trwy gwestiynau atebion byr, asesiadau ymarferol ac aseiniadau a asesir yn allanol.

Gofynion mynediad

4 TGAU Graddau A* i D gan gynnwys Saesneg Iaith (neu gyfatebol). Geirda boddhaol gan Diwtor Cwrs. Fel dewis arall, cyflawni Lefel 1 yn llwyddiannus a geirda boddhaol. Geirda boddhaol gan Ysgol neu Goleg i ddynodi ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da.

Addysgu ac Asesu

Arholiad ysgrifenedig, arholiadau ymarferol ac aseiniadau gwaith cwrs

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CTCC2F01
L2

Cymhwyster

FDQ Diploma Lefel 2 mewn Pobi Proffesiynol

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Mae’r cwrs wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi – cyrhaeddais rownd gyn-derfynol Nestle Torgue d’Or ac enillais yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a byddaf yn cystadlu yn WorldSkills UK. Oherwydd y cwrs hwn, rwyf wir yn edrych ymlaen at fy nyfodol.

Ruby Pile
Myfyriwr Rheolaeth Lletygarwch lefel 3

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

78,000

Ar hyn o bryd, mae dros 78,000 o swyddi yn y Sector Lletygarwch ac Arlwyo, a rhagwelir y bydd hyn yn tyfu 6.3% erbyn 2025. (EMSI 2021).

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i'r Diploma Lefel 3 mewn Pobi Proffesiynol. Bydd llawer o fyfyrwyr hefyd yn manteisio ar wahanol gyfleoedd gwaith yn y diwydiant.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE