Iaith Arwyddion Prydain
Ynglŷn â'r cwrs
Mae'r cymhwyster hwn wedi'i ddylunio i addysgu dysgwyr i gyfathrebu â phobl Fyddar yn Iaith Arwyddion Prydain ar ystod o bynciau sy'n cynnwys defnydd syml, bob dydd o iaith.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Byddwch yn ennill sgiliau sylfaenol ac yn magu hyder wrth gynhyrchu a derbyn Iaith Arwyddion Prydain.
Mae'r fanyleb wedi'i dylunio gan ddefnyddio Safonau Iaith Galwedigaethol y DU 2010 ar Lefel 1.
Bydd unedau ar y cwrs hwn yn cynnwys:
- BSL 101 - Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain
- BSL 102 - Iaith Arwyddion Prydain Sgyrsiol
- BSL 103 - Cyfathrebu yn Iaith Arwyddion Prydain ynghylch Bywyd Bob Dydd
Erbyn diwedd y cwrs, bydd dysgwyr yn gallu:
- Deall a defnyddio ystod gyfyngedig o eiriau a brawddegau syml yn Iaith Arwyddion Prydain.
- Cymryd rhan mewn sgyrsiau syml, bob dydd yn Iaith Arwyddion Prydain
- Rhoi a dilyn cyfarwyddiadau syml yn Iaith Arwyddion Prydain
- Rhoi a dilyn datganiadau neu ddisgrifiadau syml, cyfarwydd yn Iaith Arwyddion Prydain
Defnyddir ystod o ddulliau addysgu gan gynnwys cyflwyniadau a gwaith grŵp rhyngweithiol. Mae'r asesiadau yn rhai ymarferol drwy sgyrsiau ag athro, bydd rhai ohonynt yn cael eu recordio drwy fideo i'w hasesu'n allanol.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cwrs: £150.00
Gofynion mynediad
Mae safonau Cymhwysedd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn cynnwys gofynion i ymgeiswyr allu gweld yn ddigonol, meddu ar ddeheurwydd â llaw, a gallu symud y wyneb a'r corff i gynhyrchu a derbyn BSL.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu