Trin Oeryddion Cerbydau Modur

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae'r cwrs byr hwn yn galluogi ymgeiswyr llwyddiannus i weithio'n gyfreithiol ar systemau aerdymheru cerbydau, ac yn cynnwys y gweithdrefnau dros wagio a chynyddu gwasgedd mewn systemau aerdymheru. Mae'r llwybrau asesu ATA ar gyfer unigolion sydd â phrofiad o weithio gyda systemau aerdymheru neu'r rheiny sydd â chymhwyster cydnabyddedig a phrofiad diwydiannol ôl gymhwyster o'r lefel isaf. 

Mae'r cymhwyster hwn yn bodloni'r Rheoliad Comisiwn Aerdymheru Symudol (MAC) EC842/2006 a'r Ychwanegiad diweddaraf i Reoliad Comisiwn EC 307/2008.

Cysylltwch â thiwtor y cwrs, os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach - 02920 406505.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Bydd y cwrs yn rhedeg dros 2 ddiwrnod. Bydd y diwrnod cyntaf yn cwmpasu'r theori y tu ôl i'r system aerdymheru mewn cerbyd, gyda dull theori ac ymarferol.

Bydd yr ail ddiwrnod yn cynnwys asesiad theori ar-lein ac yna asesiad ymarferol. Gan ddangos bod y dysgwr yn gallu tynnu system aerdymheru o gerbyd a'i gwneud yn ddiogel i weithio arni, ac yna cwblhau'r broses ail-lenwi gan gydymffurfio ag unrhyw fesurau diogelwch sy'n ofynnol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Arholiad : £64.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00

Ffi Cwrs: £281.00

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gofynion mynediad

Bydd angen i ymgeiswyr fod â phrofiad perthnasol yn y diwydiant modur. Argymhellir 4 blynedd.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

MVCC3P07
L3

Cymhwyster

IMI Dyfarniad Lefel 3 mewn Trin Rhewyddion Modurol (EC842-2006)

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

18,000

Mae gan Gymru tua 8% o ddiwydiant gweithgynhyrchu modurol y DU ac mae ganddi weithlu medrus o 18,000 o bobl a throsiant blynyddol o £3 biliwn.

Camau nesaf

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE