Uwch-dechnegydd Paent ATA
Ynglŷn â'r cwrs
Mae'r cymhwyster paent uwch ATA wedi'i anelu at dechnegwyr y mae eu gwaith yn cynnwys trwsio cerbydau sydd wedi bod mewn damweiniau neu amgylchiadau tebyg. Dylai'r technegwyr fod yn gweithio yn y sector atgyweirio cerbydau ar ôl damweiniau a disgwylir o leiaf 3 blynedd o brofiad i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r sgiliau, y wybodaeth a'r technegau sydd eu hangen i roi gorffeniad heb wallau wrth baratoi paneli (presennol a newydd ) a gorffen paneli i gydweddu â phaent presennol y cerbyd. Mae'r llwybr hwn yn cynnwys 1 diwrnod o hyfforddiant o flaen llaw.
Cysylltwch â thiwtor y cwrs, os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach - 02920 406505.
Beth fyddwch yn ei astudio?
- Panel Polish (Presennol)
- Adnabod lliw ac amrywiad lliw
- Paratoi arwyneb
- Arwyneb parod - fflatio
- Selio Paneli
- Paratoi'r Panel (Panel Newydd)
- Paent preimio gwlyb ar wlyb (taenu)
- Paent lliw perl 3 cam (taenu)
- Diffygion Paent a Gweithdrefn Cywiro
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cwrs: £1,140.00
Gofynion mynediad
Dylech fod yn gweithio fel Uwch Dechnegydd yn y Sector Atgyweirio ar ôl Damweiniau yn y diwydiant a bod ag o leiaf tair blynedd o brofiad gyda'r sgiliau, y wybodaeth a'r technegau gofynnol.
Pwyntiau pwysig
- Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr dan 18 oed
- Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau
- Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn ymrwymedig i gynhwysedd ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hyrwyddo cyfle cyfartal ac i drin pawb yn deg a chyda pharch
- Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
- Mae'r holl gyrsiau'n gywir ar adeg eu lanlwytho neu eu hargraffu
- Ni allwn redeg cyrsiau heb nifer digonol o fyfyrwyr
- Sylwer: os dewiswch dri neu fwy o ddewisiadau cwrs, yna fe allech chi gael eich cyfeirio at apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Rwy'n gwybod o astudio yn y Coleg a rhoi'r sgiliau rwyf wedi'u dysgu ar waith yn fy swydd, fy mod i'n gwella bob dydd. Rwyf hyd yn oed yn mynd i gystadlu yng nghystadleuaeth paentio cyrff cerbydau modur World Skills.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu