Achrediad Technegydd Cerbydau Modur (ATA) a Thechnegydd Mecanyddol, Trydanol a Trim (MET)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Dylai'r technegydd fod yn gweithio yn y sector atgyweirio cerbydau ar ôl damwain y diwydiant ac yn ddelfrydol dylent fod â thair blynedd o brofiad i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r sgiliau, gwybodaeth a'r technegau sydd eu hangen i ddisodli cydrannau amrywiol, gan gynnwys dychwelyd systemau'r cerbyd i fanyleb y gweithgynhyrchydd ac adnabod diffygion y system.

Cysylltwch â thiwtor y cwrs, os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach - 02920 406505.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Y modiwlau a ymdrinnir â hwy yn y cwrs ATA MET yw:

  • Cyfliniad Panelau Cosmetig
  • Cydrannau Systemau Oeri
  • SRS - Cyfarpar Sgan
  • MET - Cymhleth
  • Cerbydau Trydanol - Canfod Diffygion Cymhleth
  • Hongiad Cerbyd
  • Cyfliniad Pedwar Olwyn - Dychwelyd i'r fanyleb
  • Cyfliniad Pedwar Olwyn - Dehongli Data

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £950.00

Gofynion mynediad

Dylech fod yn gweithio fel Technegydd ATA yn y Sector Atgyweirio ar ôl Damweiniau yn y diwydiant a bod ag o leiaf tair blynedd o brofiad gyda'r sgiliau, y wybodaeth a'r technegau gofynnol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr dan 18 oed
  • Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau
  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn ymrwymedig i gynhwysedd ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hyrwyddo cyfle cyfartal ac i drin pawb yn deg a chyda pharch
  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
  • Mae'r holl gyrsiau'n gywir ar adeg eu lanlwytho neu eu hargraffu
  • Ni allwn redeg cyrsiau heb nifer digonol o fyfyrwyr
  • Sylwer: os dewiswch dri neu fwy o ddewisiadau cwrs, yna fe allech chi gael eich cyfeirio at apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

MVCC4P06
L3

Cymhwyster

IMIA-ATA-MET-3-12 ATA MET Level 3

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Bu astudio yn CAVC yn brofiad pleserus iawn. Mae gan y Coleg y cyfleusterau gorau yng Nghaerdydd a bu’n gymorth i mi wrth gyflawni fy nodau.

Omer Waheed
Atgyweirio Corff Cerbyd Lefel 3

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

18,000

Mae gan Gymru tua 8% o ddiwydiant gweithgynhyrchu modurol y DU ac mae ganddi weithlu medrus o 18,000 o bobl a throsiant blynyddol o £3 biliwn.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE