Mae'r llwybr Arolygu Cerbydau Ysgafn wedi'i dargedu at dechnegwyr sydd fel rhan o'u swydd yn ymglymedig ag arolygu, cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau ysgafn, nad oes ganddynt gymhwyster Lefel ac sydd eisiau cael eu cydnabod fel technegydd cerbyd modurol cymwys.
Mae un lefel mewn Arolygu Cerbydau Ysgafn:
Mae'r achrediad hwn hefyd yn llwybr i'r Wobr IMI Lefel 2 yn y Cwrs Profi MOT.
Cysylltwch â thiwtor y cwrs, os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach - 02920 406505.
Mae rhaid i dechnegwyr sy'n ymgymryd â'r llwybr hwn fedru gweithio heb oruchwyliaeth, yn ddelfrydol mewn cyflogaeth llawn amser gydag o leiaf tair blynedd o brofiad er mwyn sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r technegau ar gyfer gwasanaethu, arolygu ac adnabod problemau gyda systemau cerbydau.
Mae'r lefel hon yn gofyn bod yr ymgeisydd yn cwblhau'r modiwlau canlynol, byddant yn cael hyfforddiant cyn yr asesiadau:
Ffi Cwrs: £605.00
Rhaid i chi allu gweithio heb oruchwyliaeth mewn cyflogaeth lawn amser yn y sector. Dylech fod ag o leiaf tair blynedd o brofiad yn y sector a bod yn gyfarwydd â'r technegau ar gyfer gwasanaethu ac arolygu cerbydau a'u systemau.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU