Ailorffen Cerbydau - Prentisiaeth
Ynglŷn â'r cwrs
Mae ein cwrs Ailorffen Cerbyd Lefel 2 Rhan-amser yn cwmpasu prif agweddau Ailorffen Cerbyd ar lefel ganolradd. Gan hyfforddi yn ein canolfan fodurol newydd bwrpasol yng Nghaerdydd, bydd myfyrwyr yn hybu eu sgiliau a’u gwybodaeth am y sector, tra’n cael mynediad i’r cyfleusterau diwydiant diweddaraf ac offer teilwredig. Bydd disgyblion hefyd yn gweithio ochr yn ochr â staff â chymwysterau’r diwydiant ac yn cymryd rhan mewn amryw o leoliadau gwaith trwy gydol y rhaglen. Cynhelir y cwrs ar Ddydd Llun, gan gychwyn am 9:00am a gorffen am 6:00pm. Mae ymgeiswyr sy’n cofrestru ar y cwrs yma fel arfer yn cymryd rhan mewn Rhaglen Brentisiaeth Sylfaen, gan dreulio pedwar diwrnod yr wythnos gyda chyflogwr ac un diwrnod yr wythnos yn y coleg.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Mae hon yn rhaglen blwyddyn sy'n ymdrin â meysydd megis:
- Sgiliau / Gwybodaeth mewn iechyd, diogelwch a gofal tŷ da yn yr amgylchedd modurol
- Sgiliau / Gwybodaeth o gefnogaeth ar gyfer rolau swydd yn yr amgylchedd gwaith modurol
- Sgiliau / Gwybodaeth o gyfarpar ac offer a ddefnyddir mewn ail-orffennu cerbydau
- Sgiliau / Gwybodaeth o gymhwyso llenwyr a deunyddiau sylfaen
- Sgiliau / Gwybodaeth o baratoi metel ac arwynebau cyn peintio
- Sgiliau / Gwybodaeth o atgyweirio diffygion paent bach
- Sgiliau / Gwybodaeth o weithio gyda deunyddiau a chydrannau plastig
Mae prif gymwysterau'r cwrs hwn yn gwneud elfennau o'r Brentisiaeth Sylfaen mewn Ail-orffennu Cerbydau.
Mae'r cwrs wedi'i wneud o'r cymwysterau canlynol:
Cwrs damcaniaeth (VRQ) - Cynhelir hwn yn y ganolfan Fodurol yn Heol Dumballs ac mae'n gyfuniad o dasgau ymarferol a dosbarthiadau damcaniaethol.
Asesiad Ymarferol (VCQ) - Cynhelir hwn yng ngweithdy'r cyflogwr. Mae'n cynnwys casglu tystiolaeth i fodloni meini prawf ynghyd â nifer o arsylwadau gan aseswyr hyfforddedig.
Sgiliau Hanfodol Cymru - Mae'r rhain yn cynnwys Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol ar naill ai Lefel 1 neu Lefel 2.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Cwrs Rhan Amser : £0.00
Gofynion mynediad
Fel rheol bydd yr ymgeiswyr yn gyflogedig yn y Diwydiant Moduro.
Addysgu ac Asesu
- Asesiadau ysgrifenedig, ymarferol ac ar-lein
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
“Bu astudio yn CAVC yn brofiad pleserus iawn. Mae gan y Coleg y cyfleusterau gorau yng Nghaerdydd a bu’n gymorth i mi wrth gyflawni fy nodau.”
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, mae'n bosib y bydd cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i wneud Prentisiaeth Lefel 3 yn y maes.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu