Oeri - Prentisiaeth
Ynglŷn â'r cwrs
Mae ein cwrs diwrnod astudio, rhan-amser Lefel 2 mewn Oeri yn lle gwych i barhau â’ch datblygiad. Wedi ei lleoli ar ein campws Canol Dinas, mae’r rhaglen hon ar gyfer yr unigolion hynny sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant Oeri ac Aerdymheru sy’n dymuno datblygu eu gyrfa. Mae’r cwrs yn dilyn rhaglen hyfforddi fodiwlaidd, sy’n darparu gwybodaeth ymarferol am osod a chynnal a chadw systemau oeri, a bydd unigolion yn cael eu hasesu yn y gweithle yn ôl fframwaith cwrs. Gan astudio yn ein gweithdai, ystafelloedd dosbarth a chanolfannau adnodd wedi’u cyfarparu’n llawn, bydd dysgwyr yn treulio diwrnod yr wythnos yn datblygu eu sgiliau o fewn y sector. Ariennir y rhaglen brentisiaeth hon yn llawn gan Lywodraeth Cymru.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Bydd unigolion yn dilyn cymhwyster ar sail QCF City & Guilds ar Lefel 2. Hefyd, gall ddysgwyr naill ai ddilyn Diploma NVQ mewn Gosod a Chynnal Systemau Aerdymheru a Phympiau Gwres neu Ddiploma NVQ mewn Gosod a Chynnal Systemau Rheweiddiad. I gadarnhau, gallwn ariannu un o'r Diplomâu yn unig, felly os oes angen y ddau ar y dysgwr, bydd hyn yn gost i'r cyflogwr. Bydd y ddau Ddiploma yn cael eu darparu trwy wybodaeth ar sail Cymhwysedd ac Egwyddorion.
Bydd dysgwyr hefyd yn gweithio tuag at gyflawni Sgiliau Hanfodol Lefel 2, sy'n cynnwys Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol, Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol, a Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 1.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Cwrs Rhan Amser : £0.00
Gofynion mynediad
4 TGAU Gradd A* - D, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg, gyda chyfweliad boddhaol neu brofiad gwaith perthnasol, diweddar. Mae'n ofynnol eich bod yn cael eich cyflogi'n llawn gan Gyflogwr Rheweiddio neu Aerdymheru cymwys.
Addysgu ac Asesu
- Nid oes unrhyw fanylion asesu wedi'u gosod.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar hyn o bryd nid oes yna unrhyw lwybrau dilyniant ar gyfer y cwrs hwn.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu